Mae’r blaid Lafur wedi llwyddo i ddal ei gafael ar ward Gorllewin Rhyl ar Gyngor Sir Ddinbych, mewn isetholiad ddydd Iau.

Enillodd Alan Roberts James y sedd i’r blaid gyda 48% o’r bleidlais, er mai dim ond 12% o’r boblogaeth wnaeth bleidleisio.

Roedd yr isetholiad wedi ei alw yn dilyn ymddiswyddiad y Cynghorydd Ian Armstrong.