Y Cymro Elfyn Evans yn cystadlu yn Rali GB Cymru yn 2014 (Geraint Wyn Jonws)
Fe fydd Rali Cymru GB yn cael ei chynnal y penwythnos hwn, gan ddechrau yn y Canolbarth heddiw.

Y disgwyl yw y bydd 148 o geir yn cystadlu yn y Rali sy’n cynnwys 22 o gymalau dros 206 o filltiroedd. Fe fydd y cymal cynta’n dechrau ger Llanidloes y bore ‘ma.

Mae’r rali’n cael ei chynnal yn gynt eleni oherwydd bod y trefnwyr eisiau tywydd sychach er mwyn cael gyrru cyflymach.

Fe fydd y cyfan yn dod i ben mewn seremoni wobrwyo i’r enillwyr yn Llandudno ddydd Sul.

Ffefryn

Enillydd Rali Cymru GB y llynedd a’r Pencampwr Byd presennol Sébastien Ogier yw un o’r ffefrynnau i ennill y rali.

“Mae’r cyffro’n cynyddu o ddifrif,” cadarnhaodd Ben Taylor, rheolwr gyfarwyddwr Rali Cymru GB. “Mae gyda ni 22 o’r cymalau rali gorau yn y byd a gyrwyr gorau’r byd yn cymryd rhan.

” Byddwn yn mentro i Loegr hefyd am y tro cyntaf ers mwy na 15 mlynedd, gyda chymal sy’n yng Nghastell Cholmondeley a gydag ymweliad â dinas Caer.”

Bydd uchafbwyntiau nosweithiol o’r rali i’w weld ar raglen  Ralio + ar S4C.