Mae diffoddwyr tân yn dweud eu bod yn llwyddo i reoli tân mawr yng Ngholeg Gŵyr yn Abertawe y bore ma.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi annog pobol i osgoi campws Tŷ Coch y coleg yn ardal Sgeti ac mae swyddogion y coleg wedi dweud y bydd y campws a’r ganolfan chwaraeon sydd yno ar gau am weddill y dydd.

Mae 18 o beiriannau tân ac 85 o ddiffoddwyr tân ar y safle ers tua phump y bore.

Yn ôl Gwasanaeth Tân Canolbarth a De Cymru mae ail a thrydydd llawr Bloc A ar dân.