Cynghorydd Sion Jones
Mae un o gynghorwyr Gwynedd yn galw ar i’r awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru feddwl o ddifri’ am ailagor y rheilffordd a oedd yn cysylltu dinas Bangor â thre’ Caernarfon.

Mae’r Cynghorydd Sion Jones, sy’n cynrychioli ward Bethel ar Gyngor Gwynedd, eisiau gweld astudiaeth yn cael ei gwneud o’r rhesymau economaidd ac amgylcheddol tros weld trên yn cario pobol rhwng y ddau le.

Roedd rheilffordd yn cysylltu Bangor a Chaernarfon tan y 1970au, ond erbyn hyn mae archfarchnad wedi’i chodi ar safle’r hen orsaf yn nhre’r Cofis, ac mae’r hen lein bellach yn llwybr cerdded a beicio sy’n cysylltu Caernarfon â’r Felinheli.

Yn ei ddadl tros ailagor y rheilffordd, mae Sion Jones yn nodi’r daith drafferthus gafodd rhai pobol wrth gyrraedd gorsaf Bangor ar eu ffordd i Wyl Rhif 6 ym mhentre’ Eidalaidd Portmeirion ym mis Medi eleni, wrth orfod cael tacsi bob cam o’r stesion i Borthmadog a Phenrhyndeudraeth.

“Mae’r Lonely Planet hefyd newydd gyhoeddi bod gogledd Cymru yn un o’r llefydd gorau yn y byd i ymweld â fo,” meddai’r cynghorydd, “felly mae angen i ni feddwl am drafnidiaeth gyhoeddus.”

Gwrandewch ar ran o ddadl Sion Jones yn y fideo hwn: