Mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymdeithas Genedlaethol i Swyddogion Prawf [NAPO], eisiau gweld datganoli’r gwasanaeth prawf yng Nghymru, a hynny er mwyn gwneud y system yn fwy “atebol ac effeithiol”.

Mae Ian Lawrence wedi dweud wrth golwg360, fod ganddo bryderon mawr ynglyn â natur y gwasanaeth ar hyn o bryd, a hynny ers iddo gael ei breifateiddio yn 2014.

Yn ôl Ian Lawrence, mae yna dri chwmni preifat yn gweithio ar y gwasanaeth prawf yng Nghymru ar hyn o bryd, ond maen nhw hefyd yn gyfrifol am wasanaethau ym Mryste, Caerloyw, Gwlad yr Haf, Wiltshire, Dyfnaint a Dorset.

“Rydym wedi dal at yr agwedd bod y gwasanaeth prawf a phob math o wasanaethau sy’n helpu cymunedau angen cael eu rheoli’n fwy lleol,” meddai Ian Lawrence.

“Dyna oedd yr achos cyn i’r gwasanaeth prawf cael ei breifateiddio nôl ym mis Chwefror 2014, ac ers hynny, rydym wedi gweld y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan y cwmnïau adsefydlu cymunedau hyn yn gwaethygu.

“Fe fyddai datganoli pwerau yn golygu bod cyfle i NAPO fynd â’i broblemau’n uniongyrchol at y Cynulliad, a bydden i’n gobeithio, yn yr achos hwnnw, y bydden ni’n cael gwell gwrandawiad nag y bydden ni gan lywodraeth ganolog.”

Trafod â San Steffan

Bydd NAPO yn cyfarfod â Gweinidogion San Steffan yn “fuan iawn” i drafod sefyllfa’r gwasanaeth yng Nghymru a Lloegr, gyda’r disgwyl y bydd datganoli pwerau yn codi yn y trafodaethau.

Cafodd y mater ei godi gan Aelod Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville-Roberts, yr wythnos hon yn Nhŷ’r Cyffredin, gyda’r Llywodraeth yn nodi’n blaen mewn ymateb iddi nad oes unrhyw fwriad i ddatganoli’r Gwasanaeth Prawf.

Mae hi wedi galw am astudiaeth bellach i weld beth fyddai goblygiadau datganoli materion cyfiawnder i Gymru.

“Mae yna elfen o bryder am faint o dorri amodau sydd, faint o gydymffurfio a rhai o’r dulliau rydan ni’n cael ar ddeall mae Working Links yn defnyddio yng Nghymru,” meddai wrth golwg360.

Defnyddiodd achos Connor Marshall, 18, a gafodd ei lofruddio ym Mhorthcawl gan rywun oedd allan o’r carchar ar ôl troseddu dwywaith o’r blaen.

“Buaswn i’n awyddus i weld bod hyn [datganoli] yn cael ystyriaeth bellach achos mi oedd [Comisiwn] Silk wedi gofyn am astudiaeth bellach ynglŷn â’r gwasanaeth prawf a gwasanaethau carchar a gofyn yn benodol am i driniaeth ac adsefydlu troseddwyr ifanc, gael ei ddatganoli.

“Odd Theresay May, pan oedd hi’n Ysgrifennydd Cartref, wedi sôn bod ‘na le i edrych ymhellach ar ddatganoli cyfiawnder ieuenctid, y gwasanaeth prawf a’r gwasanaethau llys i’r Comisiynwyr Heddlu.”

“Dw i’n meddwl bod yr amser yn dŵad, mae’r alwad yn dod, rydan ni angen astudiaeth bellach o be fyddai goblygiadau hyn.

Dywedodd y byddai datganoli’r gwasanaeth prawf yn arwain at “atebolrwydd lleol” a “dealltwriaeth leol o anghenion.”