Mae perchennog têc-awê yng Ngwaun Cae Gurwen wedi cael ei ddirwyo am werthu cyri gyda’r math anghywir o gig ynddo.

Fe ddaeth Cyngor Castell Nedd Port Talbot ag achos yn erbyn Shamim Ahmed am iddo ddweud mai cyri cig oen oedd bwyd a oedd, mewn gwirionedd, yn cynnwys cig eidion.

Ym mis Medi 2015, fe archebodd swyddogion Safonau Masnach y cyngor gyri cig oen o siop Eastern Star, Heol Cae Gurwen, Gwaun Cae Gurwen. Fe gafodd ei brofi, ac fe ddaethpwyd i’r casgliad fod y bwyd yn cynnwys cig eidion yn hytrach na chig oen.

Fe brynwyd cyri arall o’r Eastern Star rai misoedd yn ddiweddarach – a phan gafodd ei brofi, roedd eto’n cynnwys cig eidion yn hytrach na chig oen.

Fe gafodd Shamim Ahmed ei erlid am dorri’r Ddeddf Diogelwch Bwyd, ac mae wedi’i ddirwyo £200 yr un am y troseddau oherwydd iddo bledio’n euog. Mae disgwyl iddo hefyd dalu £757 o gostau i’r awdurdod lleol.