Mae nifer y bobol sy’n gwrando ar Radio Cymru wedi syrthio i’w lefel isa’ ers y flwyddyn 2000.

Mae ystadegau RAJAR ar gyfer y cyfnod rhwng Gorffennaf a Medi, a gyhoeddir heddiw, yn dweud mai 101,000 o bobol sy’n gwrando – 2,000 yn llai na’r tri mis cyn hynny .

Mae’r nifer sy’n gwrando ar Radio Wales wedi cynyddu o 7,000, gan gyrraedd 340,000 o wrandawyr.

Fe ddaw cyhoeddi’r ystadegau chwarterol ar yr union adeg pan mae Radio Cymru’n darlledu gwasanaeth newydd, Radio Cymru Mwy, ar radio DAB ac ar y we, er mwyn ceisio denu gwrandawyr iau a’r rheiny sydd eisiau clywed mwy o gerddoriaeth a llai o siarad.

Be’ ddigwyddodd i Radio Cymru?

Ers 2010, mae’r gostyngiad yn nifer y gwrandawyr wedi cwympo yn gyffredinol. Ar ddiwedd trydydd chwarter y flwyddyn honno, roedd 172,000 o bobol yn gwrando ar y donfedd.

Ar ddechrau 2011, 134,000 o bobol oedd yn gwrando, ond fe gododd y ffigwr hwnnw erbyn diwedd y flwyddyn i 144,000.

Roedd cyfres ystadegau 2012 hefyd yn un gymysglyd – yn dechrau gyda 125,000 o wrandawyr yn ystod y chwarter cynta’, ac yn codi i 142,000 cyn cwympo eto i 131,000 a 136,000.

Efallai mai yn 2013 y digwyddodd y difrod mwya’, gyda niferoedd y tri chwarter cynta’ o gwmpas 140,000 ond yn cwympo’n sylweddol ddiwedd y flwyddyn i 119,000. Mae’r orsaf wedi’i chael hi’n anodd dod yn ôl o hynny.

Yn ystod 2014, a ddechreuodd gyda 106,000 yn gwrando, fe fu dirywiad pellach i 105,00o cyn recordio dau ddarlleniad anghyffredin o uchel o 147,000 a 143,000.

Roedd y llynedd yn flwyddyn fflat a ddechreuodd gyda darlleniad o 108,000 yn ystod y chwarter cynta’, a 104,000 yn yr ail. Erbyn trydydd chwarter 2015, roedd y ffigyrau gwrando yn dangos 116,000, ac ystadegau diwedd y flwyddyn yn brolio 126,000 o wrandawyr.

Ond mae 2016 wedi bod yn flwyddyn isel arall. 112,000 o bobol oedd yn gwrando rhwng Ionawr a Mawrth; 103,000 rhwng Ebrill a Mehefin; a 101,000 rhwng Gorffennaf a Medi.