Yn dilyn wyth wythnos o heriau eithafol yn ardal Eryri, fe ddaeth Ifan Richards o’r Brithdir ger Dolgellau yn fuddugol yn y gystadleuaeth Ar y Dibyn ar S4C.

Fe enillodd wobr gwerth  £10,000 mewn cymwysterau arwain awyr agored, offer awyr agored ac fe fydd ffilm a greodd yn ystod y gystadleuaeth yn cael ei defnyddio gan Croeso Cymru i hyrwyddo antur yng Nghymru.

“Bydd ennill hyn yn cael effaith bositif iawn arnaf; mae pethau yr wyf am eu gwneud a gallaf weld y bydd ennill hyn yn agor drysau newydd imi,” meddai Ifan Richards.

Y dasg i’r cystadleuwyr wrth greu ffilm antur oedd disgrifio yr hyn oedd antur yng Nghymru yn ei olygu iddyn nhw, ac a fyddai’n ysbrydoli eraill i gael anturiaethau yng Nghymru.

Apelio at anturwyr

Fe fydd y tair ffilm yn cael eu defnyddio fel rhan o ymgyrch Gwlad Gwlad gan Croeso Cymru.

Dros yr wyth wythnos ddiwethaf, fe fu 10 o athletwyr yn cystadlu trwy ddringo, abseilio a rhwyfo ac yn y rhaglen ola’ ond un, cafodd y tri olaf dasg i greu ffilm antur a fyddai’n ysbrydoli eraill.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates: “Mae Ar y Dibyn wedi arddangos yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig fel cyrchfan antur, a hoffwn longyfarch Ifan ar ei waith caled a’i benderfyniad i gael ei enwi fel enillydd yr ail gyfres.

“Mae’r Flwyddyn Antur yng Nghymru wedi golygu dangos yr hyn sydd gan Gymru i’w chynnig fel cyrchfan awyr agored o safon fyd-eang.”