Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl i emwaith gwerth £7,000 gael ei ddwyn mewn lladrad yn Llanbadog Fawr, Sir Fynwy.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod rhywun wedi torri i mewn i’r tŷ yn y dref rhwng 12:30yh a 2:20yb ar 10 Hydref.

Nid yw’r heddlu yn sicr faint o bobol oedd yn rhan o’r lladrad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent ar 101 gan ddyfynnu cyfeirnod 241 10/10/16.