Milo Llun: Ymddiriedolaeth Cŵn/PA
Mae ‘ci fampir’ yn chwilio am gartref newydd ar ôl cael ei gludo i ganolfan ail-gartrefu cŵn ym Mhen-y-bont ar Ogwr yr wythnos diwethaf.

Mae gan Milo, ci Lhasa Apso saith oed, ddau ddant sy’n hongian y tu allan i’w geg ac mae canolfan yr Ymddiriedolaeth Cŵn wedi lansio ymgyrch i ddod o hyd i gartref newydd iddo cyn Calan Gaeaf.

Er gwaetha’r dannedd, mae staff y ganolfan wedi cymryd at natur serchus Milo, sy’n dod ymlaen â chŵn eraill, yn hoffi mynd am dro ac yn hoff o gysgu yn ystod y prynhawn.

‘Dannedd fampir’

Dywedodd llefarydd ar ran y ganolfan: “Ry’n ni’n synnu gymaint mae dannedd Milo’n ymdebygu i ddannedd fampir – maen nhw’n sicr wedi bod yn destun llawer i sgwrs ymhlith y staff ac ymwelwyr.

“Mae’n bosib ei fod e’n edrych yn union fel Count Dracula ond nid gwaetgi mohono fe.

“Mae Milo yn gweld eisiau cysur cartref ac mae e’n chwilio am gartref eithaf tawel. Fe allai fyw gydag anifeiliaid eraill neu blant dros 14 oed a fydd yn rhoi sylw unigol iddo fe pan fo angen.”