Byddai datganoli cyfrifoldeb tros luoedd heddlu Cymru yn golygu bod £25 miliwn yn fwy bob blwyddyn i’w wario ar y maes, yn ôl ffigyrau sydd wedi dod i law Plaid Cymru.

Mae’r Aelod Seneddol Jonathan Edwards wedi codi’r mater cyn ymgynghoriad newydd ar fformiwla cyllideb grantiau’r heddlu gan y Swyddfa Gartref, wedi i sawl comisiynydd heddlu fygwth camau cyfreithiol tros yr hen ymgynghoriad am ei fod yn cynnwys “camgymeriadau strategol”.

Byddai pasio’r drefn honno wedi golygu bod lluoedd heddlu Cymru yn cael £32 miliwn yn llai, yn ôl Jonathan Edwards.

Ond yn ôl ffigyrau sydd wedi’u cyhoeddi gan Gomisiynydd Heddlu Dyfed Powys, fe allai cyllideb ddatganoledig sy’n cael ei phennu ar sail poblogaeth olygu bod £25 miliwn yn fwy yn cael ei wario yng Nghymru.

“Mae gan y 43 llu heddlu yng Nghymru a Lloegr anghenion gwahanol… ac mae angen fformiwla soffistigedig i fod yn atebol i anghenion pob un,” meddai Jonathan Edwards.

“Os fyddai cyfrifoldeb tros yr heddlu yn cael ei drosglwyddo i’r Senedd, rhywbeth sy’n cael ei gefnogi gan bob comisiynydd heddlu, byddai Fformiwla Barnett yn cael ei bennu ar niferoedd poblogaeth.

“Dim ond trwy gadw cyfrifoldeb lluoedd heddlu Cymru yn San Steffan y bydd Cymru yn wynebu toriadau.”