Sophie Taylor, Llun: Heddlu De Cymru
Mae tri pherson wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth merch ifanc o Landaf, Caerdydd fu farw mewn gwrthdrawiad ffordd.

Bu farw Sophie Taylor, 22, yn oriau mân fore Llun, 22 Awst ar ôl i’w char BMW du daro bloc o fflatiau ar y gyffordd rhwng Stryd Meteor a Stryd Moira yn  Waunadda.

Cafodd dyn 21 oed a oedd yn teithio yn y car gyda Sophie Taylor ei anafu’n ddifrifol yn y gwrthdrawiad ac mae’n parhau yn yr ysbyty.

Mewn datganiad, fe ddywedodd Heddlu De Cymru bod yr achos wedi cael ei gyfeirio’n wirfoddol at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC).

Mae Michael Wheeler, 22, wedi’i gyhuddo o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus, achosi niwed difrifol trwy yrru’n beryglus, a chyhuddiad o dwyll.

Mae Melissa Pesticcio, 23, hefyd wedi’i chyhuddo o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus, achosi niwed difrifol trwy yrru’n beryglus, a chyhuddiad arall o yrru’n beryglus.

Mae Lewis Hall, 18, wedi’i gyhuddo o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Bydd y tri yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ar 4 Tachwedd.