Y bwriad yw adeiladu 93 o dai ym Mharc Sychnant
Mae gwrandawiad apêl yn cael ei gynnal heddiw i gynllun dadleuol i adeiladu 93 o gartrefi newydd yng Nghonwy.

Y cwmni datblygu, Beech Developments, sydd wedi cyflwyno’r apêl wedi i Gyngor Conwy wrthod eu cais gwreiddiol ym mis Chwefror eleni.

Mae’r cwmni am ddatblygu 93 o dai ym Mharc Sychnant, ond gwrthododd y Cyngor hyn yn gynharach eleni am nad yw’r safle yn disgyn o fewn Cynllun Datblygu Lleol yr ardal.

Roedden nhw hefyd wedi nodi y byddai’r datblygiad yn cyfrannu at broblemau traffig yr ardal.

Ond, mae’r cwmni wedi apelio yn erbyn y penderfyniad a bydd gwrandawiad yn dechrau heddiw yn swyddfeydd y Cyngor.

Pryderon lleol…

Mae criw o bobol leol wedi dod at ei gilydd i wrthwynebu’r cynllun, sef Grŵp Preswylwyr Sychnant.

Un ohonynt yw Morgan Dafydd a dywedodd wrth Golwg360: “mae’r Cyngor eisoes wedi gwrthod y cynllun ar sail nifer o bwyntiau…

“Mae yna oblygiadau i drafnidiaeth a does ddim llwybrau cerdded addas yna,” meddai.

“Rydyn ni hefyd yn poeni am effaith y datblygiad ar y Gymraeg oherwydd er eu bod nhw’n dweud y byddai’r tai ar gyfer pobol leol, rydyn ni’n rhagweld y byddai’n denu llawer o bobol o ffwrdd i symud i mewn i’r ardal,” meddai wedyn.

“Mae’r safle dim ond ychydig fetrau i ffwrdd o Barc Cenedlaethol Eryri, felly mae’n amlwg pam fod gan y cwmni ddiddordeb mawr i ddatblygu’r cae.”

Dywedodd y bydd criw o ymgyrchwyr yn ymgynnull tu allan i swyddfeydd y Cyngor hefyd i ddangos eu gwrthwynebiad.