Llun: Heddlu Gwent
Mae ymchwiliad annibynnol i achosion o gam-drin plant yn rhywiol yn lansio prosiect newydd yng Nghymru heddiw.

Bwriad y cynllun ‘Prosiect Gwirionedd’ yw apelio ar ddioddefwyr a goroeswyr o gam-drin plant i rannu eu profiadau fel rhan o ymchwiliad ehangach dan arweiniad y cadeirydd Alexis Jay.

“Rwyf wrth fy modd i fod yng Nghaerdydd heddiw i gwrdd â chynrychiolwyr ar draws Cymru i drafod gwaith yr ymchwiliad,” meddai’r Cadeirydd sydd wedi cyhoeddi strategaeth i geisio cwblhau rhan helaeth o’r ymchwiliad erbyn 2020.

“Yn benodol, rydym eisiau amlygu sut y gall dioddefwyr a goroeswyr rannu eu profiadau gyda ni drwy’r Prosiect Gwirionedd,” meddai.

‘Cyfraniad pwysig’

Mae Chris Tuck yn rhan o banel ymgynghorol yr ymchwiliad ar gyfer dioddefwyr a goroeswyr a dywedodd: “rydym yn cydnabod fod angen hyder i rannu profiadau o gam-drin plant yn rhywiol, ond mae pob profiad sy’n cael ei rannu yn mynd i wneud cyfraniad pwysig i waith yr ymchwiliad.”

Dywedodd fod modd i bobol rannu eu profiadau mewn amgylchedd preifat gyda chefnogaeth eu teulu neu eu ffrindiau.