Neuadd y Sir, Caerfyrddin
Mae blogiwr o Sir Gaerfyrddin sy’n wynebu gorfod gwerthu ei thŷ i dalu iawndal i Brif Weithredwr Cyngor Sir Gaerfyrddin, wedi gofyn am gymorth gan Blaid Cymru.

Cafodd Jacquie Thompson o Lanwrda – awdur blog ‘Carmarthenshire Planning Problems and more’ – ei herlyn gan Gyngor Sir Gar am y tro cynta’ yn 2011, ar ôl iddi wrthod rhoi’r gorau i ffilmio cyfarfod o’r cyngor i’w gyhoeddi ar y blog.

Mae hi bellach yn wynebu gorfod talu gwerth £35,392 o gostau enllib a £190,390 o gostau cyfreithiol i Mark James, Prif Weithredwr y cyngor ar ôl iddi golli achos llys yn ei erbyn.

A dyna pam ei bod wedi troi at ei Aelod Cynulliad lleol Adam Price a’r Aelod Seneddol Jonathan Edwards. Mae Plaid Cymru yn ystyried ar hyn o bryd, meddai llefarydd, pa gymorth y gall ei gynnig i Jacquie Thompson.

Cefndir

Fe gychwynnodd yr achos cyfreithiol rhwng Jacquie Thompson a Mark James ym mis Gorffennaf 2011, wedi iddi gael ei harestio am wrthod rhoi’r gorau i ffilmio cyfarfod o’r cyngor i gyhoeddi ar ei blog.

Fe aeth hi ymlaen i ddwyn achos yn erbyn Mark James, ac fe wnaeth o gymryd camau cyfreithiol mewn ymateb.

Daeth yr Uchel Lys i’r canlyniad bod Jacquie Thompson wedi cynnal ymgyrch o “aflonyddu a difenwi” yn erbyn Mark James ar ei blog, ac fe gollodd hi apêl yn erbyn y canlyniad.

Cyngor Sir Gar dalodd am gostau cyfreithiol Mark James ond fe benderfynodd Swyddfa Archwilio Cymru yn ddiweddarach bod hynny’n anghyfreithlon.

Y diweddara’

Ddydd Gwener diwetha’, Hydref 21, fe dderbyniodd Jacquie Thompson fanylion cais am Orchymyn Arwerthiant ar ei chartref gan y cyngor.

“Mae hi’n mynd yn anos fyth i ymladd yn erbyn hyn, yn enwedig yn erbyn rhywun sydd byth yn atebol, ond mi fydda’ i’n parhau i ymladd hyd y diwedd,” meddai Jacquie Thompson.

Bydd achos llys fis Rhagfyr yn penderfynu os fydd cais am Orchymyn Arwerthiant ar ei chartre’ yn cael ei basio. Yn dilyn hynny, fe ddywedodd Jacquie Thompson y gall y cyngor ei gorfodi i werthu ei chartre’.