Wynford Elis Owen
Pe bai un rhiant o bob teulu’n aros adre’ i fagu plentyn nes ei fod o’n dair oed, fe allai hynny leihau’r nifer sy’n mynd yn ddibynnol ar alcohol, meddai prif weithredwr elusen sy’n gweithio ym maes dibyniaeth.

Mae Wynford Elis Owen yn gwneud ei sylwadau yn sgil ffigyrau newydd sy’n dangos bod 1,229 o droseddau yn ymwneud ag alcohol wedi’u cyflawni gan blant o dan 18 oed yng Nghymru – gyda rhai mor ifanc â 10 oed yn troseddu dan ddylanwad alcohol.

Datgelwyd y ffigyrau mewn Cais Rhyddid Gwybodaeth gan y Ceidwadwyr Cymreig, sydd wedi dweud y dylid gwneud mwy i gydweithio â’r gymuned ac ysgolion er mwyn mynd i’r afael â’r broblem.

Ond ym marn Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr canolfan adfer Stafell Fyw yng Nghaerdydd, y cyfnod maethu yw’r cyfnod pwysica’ ym mywyd plentyn ac fe ddylai rhieni gael y dewis i aros adre’ gyda’u plant heb orfod poeni am golli cyflog.

“O’n amser i yn y swydd hon, mae profiad sawl un yn y ganolfan yn deillio o ddiffyg maethu,” meddai Wynford Elis Owen wrth golwg360. “A phetai gen i’r holl arian yn y byd, yn fanno fyddwn i’n ei wario – i sicrhau bod un rhiant yn cael cyflog i aros adra’ hefo’u plant nes eu bod nhw’n dair oed.

“Yn y dyddiau cynnar hynny mae’r niwed yn cael ei wneud,” meddai wedyn, “ond mae cymaint o bwysau ar bobol i ennill cyflog ac i fod yn brysur y dyddiau hyn, yn aml iawn mae’r sylw sy’n cael ei roi i’r plant yn eilbeth.

“Mi faswn i’n annog y Llywodraeth i dalu cyflog un rhiant fel eu bod yn medru aros adre hefo’u plentyn nes eu bod nhw’n o leiaf tair oed.”

Y ffigyrau

Roedd y troseddau gafodd eu cofnodi gan bedwar heddlu Cymru rhwng 2014 a 2016 yn amrywio o ymosodiadau corfforol i dreisio a difrod troseddol.

Cafodd 375 o achosion eu cofnodi gan Heddlu Gogledd Cymru; 250 gan Heddlu De Cymru; 182 gan Heddlu Dyfed Powys; tra bod Heddlu Gwent wedi cofnodi 105 yn y flwyddyn ddiwetha’ yn unig.

Yr ardal welodd y nifer uchaf o droseddau yn ymwneud ag alcohol gan bobol o dan 18 oed oedd Sir Gaerfyrddin (137), Wrecsam (113) a Phen-y-Bont ar Ogwr (106).

“Dydi o ddim yn syndod bod y ffigyrau mor uchel,” meddai Wynford Elis Owen. “Mae ein perthynas ni efo alcohol yn ddyrys iawn fel cymdeithas, ac mae normaleiddio alcohol wedi mynd i’r fath raddau fel ei bod hi’n abnormal i beidio cael alcohol.