Rhai o bobol Gallt Melyd o flaen y Sied
Fe fydd £1.1m yn cael ei wario ar gynllun i droi hen sied nwyddau yn gaffi a chanolfan fenter yn Sir Ddinbych.
Y Gronfa Loteri Fawr fydd yn ariannu’r cynllun yng Ngallt Melyd a chymdeithas tai elusennol, Grŵp Cynefin, sydd y tu ôl i’r syniad.
Wedi’i leoli ar ffordd brysur o Brestatyn i Ddyserth, cofnodwyd bod mwy na 60,000 o gerddwyr a beicwyr wedi mynd heibio i’r adeilad rhestredig gradd 2 yn 2015.
Bydd Y Sied yn cael ei drawsnewid i fod yn gaffi ar gyfer 100 o bobol ac yn ganolfan dreftadaeth sy’n cyflwyno hanes y pentref a’r diwydiannau mwyngloddio a chwareli lleol mewn dau dwnnel amser.
Bydd cyfleusterau eraill hefyd ar y safle gan gynnwys gwasanaeth llogi beiciau i deuluoedd, rhandiroedd, perllan a dwy uned ar gyfer busnesau bychain a gweithdai crefft.
Mae disgwyl i’r gwaith datblygu ddechrau yn ystod y Pasg 2017.
Adnodd cymunedol
Yn ôl Rheolwr Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin, Mair Edwards: “Bydd y Sied yn darparu cyfleoedd cyflogaeth, gwirfoddoli ac addysgol gwerthfawr, yn ogystal â gwarchod treftadaeth Gallt Melyd.
“Bydd tîm Grŵp Cynefin yn cefnogi staff y Sied, tenantiaid a gwirfoddolwyr, wrth i’r fenter dyfu i fod yn adnodd cymunedol cynaliadwy ac atyniad ymwelwyr.
“Dylid llongyfarch cymuned Gallt Melyd am ei dycnwch wrth weithio i adfywio’r adeilad er budd ymwelwyr a’r bobol leol dros y blynyddoedd diwetha’.”