Mae heddlu yng Nghaerdydd yn apelio am wybodaeth yn dilyn lladrad o siop yn Gabalfa ddydd Sul, Hydref 23.

Fe gerddodd dau ddyn i mewn i siop tua 8.45yh, gan fynnu arian o’r til a bygwth y siopwr. Ond f redon nhw ymaith gyda dim ond ychydig boteli o alcohol.

Mae’r dyn cynta’ wedi’i ddisgrifio fel un croenwyn, tenau oedd yn gwisgo cap gwlân llwyd wedi’i synnu dros ei wyneb, ynghyd â siaced dywyll a throwsus tracwisg.

Roedd yr ail ddyn yn dewach na’r cynta’ ac yn ei 40au. Roedd yn gwisgo siaced dywyll, trowsus byr, a sandalau am ei draed.