Mae cwmni ynni'r llanw Tidal Energy wedi cael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr
Mae cwmni ynni’r llanw wedi’i leoli yn ne Cymru yn chwilio am brynwr wedi iddo gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr yr wythnos diwethaf.

Cafodd y cwmni Tidal Energy Ltd (TEL) ei sefydlu yn 2001 ac mae ganddo safleoedd yng Nghaerdydd a Doc Penfro.

Dydd Llun diwethaf (Hydref 17), penodwyd Steve Wade a David Hill o gwmni Begbies Traynor yn weinyddwr i’r cwmni.

Maen nhw’n gobeithio dod o hyd i brynwr yn fuan am eu bod o’r farn bod ganddynt staff, sgiliau a thechnoleg arbenigol allai ddenu prynwr newydd.

Mae’r cwmni Tidal Energy wedi datblygu technoleg o’r enw ‘DeltaStream’ gyda thyrbin 400KW ac wedi’i dreialu’n llwyddiannus ar eu safle yn Ramsey Sound yn ne sir Benfro.
Dywedodd cyfarwyddwr y cwmni, Chris Williams, fod pwysau’r farchnad wedi golygu eu bod wedi brwydro’n ariannol ond eu bod yn hyderus i ddenu prynwr am fod ganddynt y sgiliau a’r dechnoleg o’r radd flaenaf.