Mae un o ymgeiswyr UKIP yng Nghymru yn ystod yr etholiad cyffredinol diwethaf wedi cyhoeddi ei fod yn ymuno â’r ras i fod yn arweinydd nesaf UKIP.

Fe safodd John Rees-Evans ar ran y blaid yn etholaeth De Caerdydd a Phenarth yn yr etholiad cyffredinol yn 2015.

Fe wnaeth John Rees-Evans ei gyhoeddiad ar raglen The Politics Show ar y BBC gan ymddiheuro am sylw wnaeth o yn 2014 bod “asyn hoyw” wedi ceisio treisio ei geffyl.

Dywedodd mai “tynnu coes chwareus” oedd o’n ceisio ei wneud ond cyfaddefodd ei fod yn gamgymeriad trwy ddweud hynny.

Mae’n ymuno â nifer o ymgeiswyr eraill sy’n sefyll yn y ras am arweinyddiaeth y blaid gan gynnwys cyn-ddirprwy gadeirydd UKIP Suzanne Evans, y cyn-ddirprwy arweinydd Paul Nuttall a chyn-bennaeth staff Nigel Farage, Raheem Kassam.

Mewn fideo ar YouTube sy’n esbonio ei resymau dros sefyll, meddai John Rees-Evans ei fod wedi penderfynu taflu ei enw i’r het oherwydd ei fod yn ofni y bydd UKIP yn troi’r un mor “ddrylliedig a sinigaidd” a gweddill pleidiau gwleidyddol y DU.

Ychwanegodd mai ei brif bolisi yw diwygio UKIP yn llwyr a rhoi’r pŵer i’r aelodau yn hytrach na swyddogion y blaid.