Traffordd yr M4
Bydd mynediad i gyffordd 41 ar yr M4 ger Port Talbot yn parhau ar agor, cadarnhaodd Ysgrifennydd yr Economi Llywodraeth Cymru heddiw.

Daw hyn wedi cyfnod prawf lle’r oedd y ffordd ymuno i’r gorllewin ynghau mewn ymgais i liniaru tagfeydd traffig yn yr ardal.

Ond, roedd masnachwyr lleol wedi cwyno bod cau’r ffordd yn effeithio ar yr economi leol.

Yn dilyn cyfarfodydd ag Aelodau Cynulliad a Seneddol Aberafan, David Rees a Stephen Kinnock, cadarnhaodd Ken Skates nad yw’n bwriadu parhau â’r arbrawf i gau’r gyffordd honno.

Dywedodd fod ansicrwydd gwaith dur Port Talbot ac effaith Brexit wedi dylanwadu ar ei benderfyniad.

Ychwanegodd y bydd yn parhau i ymgynghori â Dinas-ranbarth Bae Abertawe i asesu sut i wella llif y traffig ar goridor yr M4 o amgylch Abertawe.