Ched Evans (Llun: Chris Radburn/PA)
Mae mwy na 40 o ASau benywaidd Llafur wedi ysgrifennu at y Twrnai Cyffredinol i rybuddio y bydd merched yn llai tebygol o adrodd achosion o drais yn dilyn cynsail cyfreithiol a osodwyd yn ail achos llys y pêl-droediwr Ched Evans.

Mae grŵp seneddol merched y Blaid Lafur, sy’n cael ei gadeirio gan AS Birmingham Yardley, Jess Phillips, wedi codi pryderon am y ffordd mae hanes rhywiol merched yn cael ei ddefnyddio fel tystiolaeth yn y llys.

Mae’n dilyn y defnydd o dystiolaeth o’r fath yn ail achos Ched Evans, a gafwyd yn ddieuog o dreisio yn gynharach y mis hwn.

Mae’r llythyr yn annog y Twrnai Cyffredinol Jeremy Wright a’r Ysgrifennydd Cyfiawnder Liz Truss i newid y gyfraith fel na all hanes rhywiol merch gael ei ddefnyddio fel tystiolaeth os nad yw’n achos arbennig.

‘Cynsail peryglus’

Meddai’r llythyr bod y dyfarniad a’r digwyddiadau yn achos Ched Evans wedi gosod “cynsail peryglus” am y ffordd mae’r person sydd wedi dioddef trais rhywiol, sydd fel arfer yn ddynes, wedi ymddwyn yn y gorffennol, yn cael ei gymryd fel tystiolaeth o’r ffordd mae hi wedi ymddwyn ar adeg y trais rhywiol honedig.

Mae Jess Phillips hefyd yn bwriadu codi’r mater mewn cwestiynau seneddol i’r Twrnai Cyffredinol.

Cefndir

Cafodd Ched Evans ei gyhuddo o dreisio merch mewn ystafell westy ger y Rhyl yn dilyn noson allan ym mis Mai 2011.

Roedd Ched Evans, 27, yn cyfaddef iddo gael rhyw gyda’r ferch mewn gwesty Premier lnn yn ystod oriau mân y bore ar 30 Mai, 2011 ond roedd wedi mynnu bod y weithred wedi bod yn gydsyniol.

Er iddo’i gael yn euog mewn achos llys yn 2012, cafodd ei euogfarn ei ddileu gan y Llys Apêl yn gynharach eleni. Mewn achos newydd yn Llys y Goron Caerdydd yn ddiweddar, dywedodd dau dyst eu bod nhw wedi cael rhyw gyda’r ddynes tua’r un cyfnod a’r treisio honedig a’i bod hi wedi ymddwyn yn debyg i’r ffordd yr oedd Ched Evans yn honni.