Vaughan Gething
Mae Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth Cymru yn ymweld ag Uganda’r wythnos hon i nodi deng mlwyddiant y rhaglen ‘Cymru o blaid Affrica’.

Bydd Vaughan Gething yn ymweld ag amryw o brosiectau sydd wedi cael cefnogaeth gan wahanol sefydliadau o Gymru dros y ddeng mlynedd ddiwethaf.

Yn eu plith mae meithrinfa goed Salem sy’n rhan o brosiect 10miliwn o goed sydd wedi cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.

“Mae’n fraint cael ymweld ag Uganda i weld yr effaith gadarnhaol y mae rhaglen Cymru o Blaid Affrica yn ei chael ar fywydau pobol,” meddai’r Ysgrifennydd Iechyd.

“Rwy’n edrych ymlaen at gael gweld â’m llygaid fy hun y gwahaniaeth y mae’r gefnogaeth a’r arian sy’n cael ei godi yng Nghymru yn ei wneud yn y wlad, ac i gwrdd â’r bobol hynny sydd bellach yn byw bywyd gwell o ganlyniad i haelioni pobol Cymru.”

Ymweliadau

Bydd hefyd yn ymweld â’r prosiect Honey Hub sy’n hyfforddi ffermwyr i gadw gwenyn a chynhyrchu mêl mewn ffordd gynaliadwy.

Yn ogystal, bydd yn ymweld â phrosiect ynni dŵr Ysgol Bumayoka sy’n defnyddio cyfarpar gan elusen PONT sydd wedi’i lleoli yn Rhondda Cynon Taf.

Mae PONT wedi hyfforddi mwy na 1,200 o weithwyr iechyd cymunedol, darparu addysg i fwy na 100,000 o blant, rhoi rhwydau mosgito i 20,000 o deuluoedd a darparu 2,000 o eifr i deuluoedd yn Uganda.

Bydd hefyd yn ymweld ag ysbytai ac unedau iechyd gan gynnwys y prosiect Teams4U yn Kumi sy’n cynnig cymorth glendid gan sicrhau bod miloedd o ferched yn Uganda yn aros mewn addysg.