Y cyfreithiwr a’r bardd, Emyr Lewis
Wrth i Fesur Cymru basio trwy San Steffan, mae cyfreithiwr blaenllaw wedi beirniadu’r Mesur yn hallt gan gyhuddo gweision sifil yn Llundain o “daflu tywod i beirianwaith y Cynulliad” er mwyn ei arafu.

Mae’r cyfreithiwr a’r bardd, Emyr Lewis, yn honni fod rhai adrannau yn Whitehall yn gyndyn i symud i ffwrdd o’r cysyniad o  ‘England and Wales’ ac fe fydd hynny yn ei dro yn ei gwneud hi’n anoddach i’r Cynulliad ddeddfu.

Mae Emyr Lewis yn cymharu’r Cynulliad i beiriant ble mae gweision sifil o Lundain yn taflu tywod i fol y peiriant.

“Fel dw i’n gweld hi, y syniad ydi fod y Cynulliad i fod i bweru pobol Cymru ac mi wyt ti yn rhoi’r peiriant iddyn nhw i neud pethau ond maen nhw’n taflu lot o dywod i mewn i’r peiriant ac mae’r peiriant yn mynd yn araf ac yn torri i lawr.

“Y broblem dechnegol gyfreithiol yw parhad gwleidyddion a gweision sifil mewn rhai adrannau yn Whitehall i fynnu mai nhw sydd a’r gair ola’ mewn perthynas â nifer o bynciau,” meddai Emyr Lewis wedyn.

“Mae hynny wedi arwain, i raddau, at barhad y cysyniad ‘England and Wales’. Fe fydd y Cynulliad wedi dioddef cwtogiad afresymol i’w allu i ddeddfu, a bydd hynny yn ei dro, yn arwain at rwystredigaeth o ran Llywodraeth a fydd yn ei chael hi’n  anoddach i ddeddfu mewn rhai meysydd nag ar hyn o bryd.”