Cafodd dyn ei anafu ar ôl damwain balwn aer poeth yng Nghwm Cynon ddydd Sul.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad yn Hirwaun tua 3:15 y prynhawn.

Yn ôl Heddlu De Cymru, cafodd y dyn fan anafiadau i’w goes ar ôl i’w falwn orfod glanio ar frys.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101 gan ddyfynnu rhif digwyddiad: 1600409907.