Gareth Bale yn dathlu wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn gogledd iwerddon, Ewro 2016 Llun: PA
Mae Gareth Bale wedi cael ei enwebu am y wobr Ballon d’or eleni.

Gwnaethpwyd y cyhoeddiad gan France Footbal y bore ma wrth iddyn nhw ddatgelu’r pum chwaraewr cyntaf sydd wedi eu henwebu am y wobr ar gyfer y chwaraewr gorau yn y byd.

Cafodd asgellwr Cymru ei enwi gyda Sergio Aguero, Pierre-Emerick Aubameyang, Gianluigi Buffon a Cristiano Ronaldo. Bydd gweddill y 30 o enwebiadau yn cael eu henwi yn ystod y dydd heddiw.

Mae 2016 wedi bod yn flwyddyn arbennig i Gareth Bale, 26, wrth iddo arwain Cymru i rownd gynderfynol Ewro 2016 ac ennill ei ail deitl Cynghrair y Pencampwyr mewn tair blynedd gyda Real Madrid.

Mae gwobr Ballon d’or- yn cael ei feirniadu gan banel o newyddiadurwyr.