Mae arweinydd Plaid Cymru wedi galw am fabwysiadu agwedd feddal at adael yr Undeb Ewropeaidd, gan ddweud bod yr hawl i symud nwyddau, gwasanaethau a phobol yn dod fel rhan o un pecyn.

Wrth drafod y sefyllfa ar raglen Sunday Politics Wales, dywedodd Leanne Wood nad oes lle i gyfaddawdu ar symud o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

Serch hynny, dywedodd bod opsiwn tebyg i’r hyn sy’n digwydd yn Norwy o dan ystyriaeth, lle maen nhw’n rhan o’r farchnad sengl a bod peth symud yn digwydd, ond fod rhaid i unigolyn gael swydd cyn cael mynediad i’r wlad.

“Ry’n ni wedi bod yn barod i ystyried y math yna o opsiwn i Gymru oherwydd, rhaid i chi gofio bod y ddadl ynghylch mewnfudo wedi cael ei chymylu a’i throslgwyddo i feysydd eraill.

“Yng Nghymru, does gyda ni ddim problem gyda mewnfudwyr. Mewn gwirionedd, ein problem mewnfudo ni yw’r broblem o fudo. Mae pobol yn gadael ein cymunedau ni.”

Mewnfudo

Dywedodd Leanne Wood y dylid canolbwyntio’n unig ar gwestiwn aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd, ac nid mewnfudo na’r farchnad sengl.

“Roedd llawer o bobol yn siarad am fewnfudo a dw i’n derbyn bod hynny’n fater y mae gan bobol bryderon yn ei gylch, ond mae gan bobol bryderon hefyd am swyddi, diwydiant a’n heconomi ac i Blaid Cymru, dyna’r cwestiynau allweddol.

“Mae gyda ni economi wan, mae gyda ni gyflogau sydd 10% yn llai na rhannau eraill o’r DU. All y sefyllfa yma ddim parhau. Rhaid i ni roi swyddi a’r economi wrth galon popeth.”

Y farchnad sengl

Wfftiodd Leanne Wood yr awgrym fod gadael yr Undeb Ewropeaidd a’r farchnad sengl yn mynd law yn llaw.

“Os felly, pam nad oedd yn dweud hynny ar y papur pleidleisio? Roedd y cwestiwn ar y papur pleidleisio’n sôn am yr Undeb Ewropeaidd.

“Mae yna wledydd sydd allan o’r Undeb Ewropeaidd ond sydd yn y farchnad sengl a dw i’n credu ei bod er lles Cymru i ni geisio parhau i fod felly.

“Ond tan i ni lofnodi Cymal 50, does dim byd wedi cael ei benderfynu. Mae’r math o Brexit gawn ni yn y fantol. Mae’r Prif Weinidog [Theresa May] wedi gwneud nifer o ddatganiadau. Mae hi’n sicr yn ffafrio Brexit caled.

“Ond dydy hynny ddim yn golygu ein bod ni’n mynd i ildio a derbyn hynny. Ers pryd mae pobol yng Nghymru wedi derbyn yr hyn y mae’r Torïaid yn ei ddweud wrthyn nhw?”