Mae chwech o bobl wedi cael eu cyhuddo ar ôl helynt yng Nghasnewydd nos Iau.

Yn eu plith, mae dau fachgen 13 oed wedi cael eu cyhuddo o anhrefn treisgar.

Mae bachgen 16 oed a dyn 24 oed hefyd wynebu’r cyhuddiad.

Yn ogystal, mae merch 17 oed a dyn 20 oed wedi eu cyhuddo o dorri Gorchymyn Gwasgaru.

Ymddangosodd y dyn 24 oed gerbron ynadon Casnewydd y bore yma ac mae’r lleill wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Roedd y gwasanaethau brys wedi cael eu galw ychydig wedi 8.30 nos Iau ar ôl adroddiadau o ymladd ar Commercial Road.

Gorchymyn Gwasgaru

Fe fydd Gorchymyn Gwasgaru ar waith drwy’r penwythnos a rhagor o patrôls ar draws Casnewydd i dawelu meddwl trigolion a rhwystro rhagor o anhrefn. 

“Mae’r canlyniadau hyn yn dangos ein penderfyniad di-ildio i rwystro’r ymddygiad cwbl annerbyniol hwn,” meddai’r Comander Glyn Fernquest o Heddlu Gwent.

“Rydym yn cymryd y digwyddiad yma’n hynod o ddifrifol a byddwn yn sicrhau cyfiawnder i bawb.

“Mae’r chwe chyhuddiad yn anfon rhybudd clir i unrhyw un sy’n bwriadu achosi trwbl. Fe fyddwn ni’n cael hyd ichi. Fe fyddwn ni’n eich arestio ac fe fyddwch chi’n mynd gerbron y llysoedd ac yn dioddef y canlyniadau. Meddyliwch beth fydd hyn yn ei olygu ichi. Rydym yn dal i edrych trwy luniau teledu cylch cyfyng i adnabod eraill fu’n chwarae rhan.”

Mae anhrefn treisgar yn drosedd ddifrifol a all arwain at uchafswm o 14 mlynedd o garchar.