Neil McEvoy
Mae galwadau ar aelodau Plaid Cymru i bleidleisio dros y cytundeb wnaeth grŵp Cynulliad y blaid wneud â Llywodraeth Cymru ar ôl etholiadau mis Mai.

Fe wnaeth Neil McEvoy, Aelod Seneddol Canol De Cymru, yr alwad yn ei araith yng nghynhadledd y Blaid yn Llangollen heddiw.

Cafodd y compact Symud Cymru Ymlaen ei sefydlu rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru ar ôl i Lafur fethu â sicrhau digon o seddi i ffurfio Llywodraeth fwyafrifol.

Yn ôl yr Aelod Cynulliad, fe wnaeth Llafur Cymru dorri’r cytundeb hwnnw ar ôl iddyn nhw bleidleisio yn erbyn cyflwyno Deddf Awtistiaeth i Gymru pythefnos yn ôl.

Fe ddywedodd yn ei araith, na ddylai Plaid Cymru gael “unrhyw beth i wneud â Llafur Cymru”.

Bydd yn galw am “gynhadledd arbennig” er mwyn i aelodau Plaid Cymru allu bleidleisio ar y cytundeb.

Angen ‘gwrthblaid go iawn’

Yn ogystal â’r compact Symud Cymru Ymlaen, fe wnaeth Plaid Cymru daro bargen â Llywodraeth Cymru’r wythnos ddiwetha’ i gyflwyno’r Gyllideb Ddrafft yr wythnos ddiwethaf.

Roedd hynny’n fargen gwerth £119 miliwn, oedd yn cynnwys rhai o addewidion pennaf Plaid Cymru yn ei maniffesto cyn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai.

Ond i Neil McEvoy dyw hyn ddim yn ddigon, ac mae’n dweud bod angen “gwrthblaid go iawn” ar Gymru.

“Mae angen gwahaniaeth amlwg ar ein democratiaeth Gymreig ac mae angen dŵr gwyrdd clir rhwng Llafur Cymru llwfr a marwaidd a Phlaid Cymru arnom,” meddai.

“Mae angen gwrthblaid go iawn ar Gymru a gall hynny ond ddod wrthym ni.”

Barn wahanol

Mae barn sawl un yn y Blaid yn wahanol ar sut ddylai’r grŵp yn y Cynulliad weithio gyda’r Llywodraeth, gyda rhai yn credu bod lle am fwy o gydweithio ac eraill yn dweud na ddylen nhw gydweithio o gwbl.

Yr wythnos ddiwetha’, fe ddywedodd yr arweinydd, Leanne Wood, na fyddai’n “diystyru’r” posibilrwydd o fynd i glymblaid ffurfiol â’r Llywodraeth.

Er hynny, mae Neil McEvoy wedi dweud wrth golwg360 nad oes unrhyw trafod wedi bod am gael clymblaid ac mae’n dweud na fydd chwaith.