David Davies AS Mynwy
Mae AS Mynwy wedi ysgrifennu at gyfarwyddwr newyddion ITV yn cwyno am y ffordd y cafodd ei gyfweld gan y cyflwynydd teledu Piers Morgan.

Roedd David Davies yn cael ei holi ynghylch ei alwad am archwilio dannedd ffoaduriaid er mwyn cadarnhau eu hoedran.

Dywedodd David Davies y byddai “myfyriwr ar brofiad gwaith” wedi gwneud gwell job na Morgan gan honni nad oedd wedi rhoi cyfle iddo ateb unrhyw gwestiynau.

Yn y cyfweliad ddydd Mercher, roedd Piers wedi dweud wrth David Davies fod y ffoaduriaid yn “bobl dlawd sydd wedi bod trwy uffern” a bod gan Brydain “ddyletswydd moesol i dderbyn y niferoedd cymharol fach”.

Dywedodd David Davies nad oedd ganddo “unrhyw broblem gyda selebs teledu yn mynegi eu hemosiynau” ond na ddylen nhw gael eu “trin fel newyddiadurwyr go-iawn.”

Mae Piers Morgan wedi diystyru cwyn David Davies, gan bostio llun o’i lythyr ar Twitter gyda’r capsiwn “dear oh dear oh dear”.

Wedyn fe wnaeth bostio llun o ddymi, gyda’r neges:

“Hi mate @DavidTCDavies, think you spat this out earlier. Maybe stick it back in your mouth once you’ve had your teeth checked.”