Leanne Wood (llun: Stefan Rousseau/PA)
Fe fydd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn amlinellu cynllun tri rhan i “amddiffyn budd cenedlaethol Cymru” yn sgil pleidlais Brexit yng nghynhadledd y Blaid yn Llangollen heddiw.

Ar ail ddiwrnod y gynhadledd flynyddol, mae disgwyl iddi ddweud mai’r blaenoriaethau fydd sicrhau bod llais y pedair gwlad yn cael eu clywed; cadw aelodaeth Cymru o’r Farchnad Sengl a chryfhau’r cyfansoddiad i sicrhau nad yw Cymru’r colli pwerau o ganlyniad i Brexit.

Bydd hi hefyd yn cyflwyno her i Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones gan ddweud:

“Os na fyddwch yn sicrhau’r cytundeb gorau posib i Gymru yna byddwn yn eich dwyn i gyfrif.”

Gweledigaeth

Mewn datganiad cyn y gynhadledd, mae’r arweinydd yn dweud na ellir gadael i “Boris Johnson, Liam Fox a’u math drafod ar ein rhan”.

“Mae tair ffordd glir y medrwn ni amlinellu ac arddel budd cenedlaethol Cymru.

“Yn gyntaf, mae’n rhaid i wledydd Prydain fabwysiadu dull Pedwar Gwlad ar gyfer y broses o drafod  Brexit.

“Fy ail bwynt yw bod rhaid i Gymru gadw ei haelodaeth o’r Farchnad Sengl. Yn ystod y chwarter diweddaraf, aeth 39% o allforion Cymru i’r UE – sy’n uwch nag allforion i Ogledd America neu Asia.

“Y drydedd elfen yw ein safbwynt yn y ddadl dros ddyfodol y Deyrnas Gyfunol. Bydd Brexit yn golygu datgymalu degawdau o reoleiddio ar ddeddfwriaeth. Rhaid i bob Senedd o fewn y Deyrnas Unedig gael y gair olaf, nid yn unig ar dermau Brexit ond hefyd ar a fydd pwerau yn cael eu dychwelyd i San Steffan neu yn hytrach i’r cenhedloedd.

“Brif Weinidog, byddwn yn gwylio eich ymateb i ddatblygiadau cyfansoddiadol.

“Ac os na fyddwch yn sicrhau’r cytundeb gorau posib i Gymru yna byddwn yn eich dwyn i gyfrif.”