Mae Prif Gwnstabl Cynorthwyol wedi ymddiheuro ar ran Heddlu Gogledd Cymru wedi i gyn-Uwch Arolygydd o’r llu gael ei ddyfarnu’n euog o droseddau rhyw hanesyddol.

Yn dilyn achos llys chwe wythnos o hyd yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, fe gafwyd Gordon Anglesey, 79, yn euog heddiw o bedwar cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar ddau fachgen rhwng 1982 a 1987. Fe’i cafwyd yn ddieuog o un cyhuddiad o sodomiaeth.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Richard Debicki ei fod “yn falch” bod y dioddefwyr yn yr achos wedi bod ddigon dewr i leisio eu cwyn.

“Mae’n wir dweud nad oes yr un proffesiwn sy’n rhydd o unigolion fydd yn ecsbloetio eu hawdurdod gan gamdrin dioddefwyr diniwed, ond mae pobol yn disgwyl gwell gan yr heddlu.

“Rwy’n tristhau bod cyn swyddog o HGC yn un o’r unigolion hynny ac fe fuaswn yn hoffi ymddiheuro ar ran y llu i’r rhai hynny y cafodd eu heffeithio mor drawmatig ganddo,” meddai.