Mae trigolion ardal Caerdydd yn llai bodlon gyda’u gwasanaethau cyhoeddus o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd, yn ôl arolwg.

Mae’r ffigyrau wedi’u cyhoeddi yn arolwg hunan-welliant y cyngor, ac mae’n dangos hefyd bod y cyngor wedi methu a chyrraedd targedau addysg a gofal cymdeithasol – er ei fod yn honni i fod y trydydd cyngor sydd wedi gweld y gwelliant mwyaf yng Nghymru.

Roedd bodlonrwydd y cyhoedd ar wasanaethau sy’n cael eu darparu gan y cyngor, gan gynnwys casglu gwastraff a glanhau strydoedd, i lawr o 80.8% yn 2014-15 i 69.3% yn 2015-16.

Er hyn, fe roedd rhai gwasanaethau a welodd welliant gan gynnwys glanhau priffyrdd ac ail-gylchu.

Roedd yr Arweinydd Phil Bale yn falch bod y cyngor wedi medru gwella mewn cymaint o ardaloedd o ystyried y toriadau sy’n wynebu’r cyngor, ond fe nododd hefyd bod “llawer mwy i’w wneud”.

Cafodd canlyniadau’r arolwg eu trafod mewn cyfarfod llawn o’r cyngor ddydd Iau.