Mae 120,000 litr o olew cerosin wedi cael ei dynnu o ddŵr afon yng Nghaerfyrddin, yn ôl yr awdurdodau lleol.

Roedd tua 140,000 litr o gerosin wedi gollwng o beipen y cwmni puro olew Valero a llygru Nant Pibwr ger Nant-y-caws, gan ladd nifer sylweddol o bysgod.

Bu’n rhaid cau ffordd yr A48 i’r ddau gyfeiriad er mwyn cwblhau gwaith i drwsio’r beipen a thynnu’r olew o’r dŵr a bydd yn parhau ynghau tan 1 Tachwedd.

Mae ymchwiliad i’r digwyddiad yn cael ei gynnal gan Gyfoeth Naturiol Cymru ond mae eisoes wedi dod i’r amlwg nad yw’r olew wedi effeithio ar ddŵr yfed.

Er hyn, gofynnir i bobol wneud ymdrech i gadw da byw ac anifeiliaid anwes i ffwrdd o’r dŵr.

Dywedodd Aelod Pwyllgor Cyngor Sir Gar tros yr Amgylchedd a Diogelwch Cyhoeddus, y Cynghorydd Jim Jones: “Mae’r digwyddiad wedi cael effaith fawr ar yr amgylchedd ac ar y gymuned leol ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gynorthwyo’r gwaith adfer er mwyn y trigolion lleol.”