Yfory fe fydd munud o dawelwch cenedlaethol yn cael ei gynnal yng Nghymru i gofio am drychineb Aberfan, pan gafodd 144 o bobol, gan gynnwys 116 o blant, eu lladd.

Bydd hi’n union 50 mlynedd ers i domen o lo lithro i lawr llethrau’r bryniau uwchlaw’r pentref gan gladdu’r ysgol gynradd leol ac ugain o dai a ffermdy.

Caiff y munud o dawelwch ei gynnal am 9.15 y bore, yr union amser pryd ddigwyddodd y trychineb yn 1966.

Ar ddiwrnod y cofio, bydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn gosod torch ar ran y genedl ac yn cyfarfod y sawl wnaeth oroesi’r trychineb, ynghyd â theuluoedd y rhai a gollodd eu bywydau.

“Byth yn anghofio”

“Fyddwn ni fyth yn anghofio’r dynion, y menywod a’r plant ysgol a gollodd eu bywydau mor drasig yn nhrychineb Aberfan 50 mlynedd yn ôl,” meddai Carwyn Jones.

“Mae’n bwysig cofio fel bod cenedlaethau’r dyfodol yn deall beth ddigwyddodd yn Aberfan. Mae’n adeg wirioneddol dorcalonnus yn ein hanes ac ni all unrhyw un sy’n dysgu am y trychineb beidio â chael eu gwir gyffwrdd gan y digwyddiad.

“Hanner canrif wedi’r trychineb, dw i’n gobeithio y bydd y genedl gyfan yn dod at ei gilydd, gan ddangos parch a thosturi, i oedi am funud am 9.15am yfory a meddwl am gymuned Aberfan.”

Yn y Senedd ddydd Mercher, fe wnaeth Aelodau Cynulliad gynnal munud o dawelwch yn y Siambr, gydag arweinwyr y pleidiau yn talu teyrnged i bobol Aberfan yn eu tro.