Mae ymadawiad Dafydd Elis-Thomas yn gwneud bywyd yn haws i Blaid Cymru, yn ôl Leanne Wood.
Mae Arweinydd y Blaid yn edrych ymlaen at gyfnod o undod a chanolbwyntio “ar y canlyniadau gorau i Gymru heb feddwl am dreulio egni ar bethau sydd ddim wir yn gynhyrchiol”.
Fe adawodd AC Dwyfor-Meirionydd Plaid Cymru nos Wener ddiwethaf, gan gyhoeddi y bydd bellach yn eistedd yn y Cynulliad fel aelod Annibynnol.
Doedd ef na’i gyd-aelodau ym Mhlaid Cymru heb weld llygad yn llygad ers tro, gyda’r Blaid yn ystyried cyn etholiadau’r Cynulliad mis Mai a ddylen nhw adael i’r Arglwydd sefyll yn enw Plaid Cymru yn Nwyfor-Meirionnydd.
‘Symud ymlaen’
Wrth siarad â golwg360 ar drothwy cynhadledd y Blaid yn Llangollen y penwythnos hwn, dywedodd Leanne Wood y gallan nhw symud ymlaen nawr a hynny heb Dafydd Elis-Thomas.
“Dw i’n bositif iawn am ein gallu i ni ganolbwyntio nawr ac uno â theimlad o bwrpas o ran lle’r ydyn ni’n mynd nesa’,” meddai Leanne Wood.
“Roedd yn anodd ceisio bodloni rhai safbwyntiau gwahanol, ac rydym yn rhydd nawr i ganolbwyntio ar y canlyniadau gorau i Gymru heb feddwl am dreulio egni ar bethau sydd ddim wir yn gynhyrchiol.”
Cytundeb â’r Llywodraeth
Fe fynnodd Leanne Wood hefyd nad oedd wedi gweld unrhyw arwydd o Lywodraeth Cymru yn tynnu allan o’i chytundeb Symud Cymru Ymlaen gyda Phlaid Cymru.
Gyda Dafydd Elis-Thomas yn aelod annibynnol, mae’n golygu nad Plaid Cymru yw’r wrthblaid swyddogol, gan fod ganddyn nhw’r un nifer o Aelodau Cynulliad â’r Ceidwadwyr Cymreig – 11.
“Mae’r newid mewn amgylchiadau yn golygu bod ganddyn nhw [Llywodraeth Cymru] sawl opsiwn, ond roedd ganddyn nhw opsiynau o’r blaen, gyda Nathan Gill [UKIP] yn eistedd yn annibynnol,” meddai Leanne Wood.
“Felly mae’r ffaith yn parhau bod rhaid iddyn nhw weithio gydag eraill o hyd. Dim ond 28 [aelod] sydd yn grŵp Llafur felly bydd rhaid iddyn nhw weithio gydag eraill i gael eu rhaglenni a’u cyllideb drwodd.
“Bydd yn fater iddyn nhw benderfynu sut y gallan nhw wneud hynny yn y ffordd fwya’ ddibynadwy.”
Bydd cynhadledd Plaid Cymru yn dechrau yn Llangollen yfory.