Mae arolwg barn newydd a gyhoeddwyd heddiw yn awgrymu nad oes tystiolaeth o unrhyw gonsensws ymhlith pobl Cymru ynglŷn â’r hyn y dylai Brexit ei olygu.

Mae’r data’n dangos bod mwyafrif y rhai a bleidleisiodd i adael â’r Undeb Ewropeaidd (UE) am weld cytundeb Brexit caled tra bod llawer o’r rhai a bleidleisiodd i aros yn yr UE, ar y llaw arall, am wrthdroi penderfyniad y refferendwm ym mis Mehefin ac aros yn yr undeb.

Golyga Brexit caled, yn yr achos gorau, mai cytundeb masnach cyfyngedig fyddai gan wledydd Prydain gyda gweddill yr UE.

Mae canlyniad y pôl opiniwn newydd wedi’i gyhoeddi gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, fel rhan o’i gwaith yn edrych ar effaith Brexit ar Gymru.

Canlyniadau

Nid oes consensws clir ynghylch pa fath o gytundeb y dylai’r Deyrnas Unedig ei gael gyda’r UE. Cytundeb masnach cyfyngedig yn unig gyda’r UE (32%) yw’r dewis mwyaf poblogaidd; gwrthdroi canlyniad y refferendwm sy’n dod yn ail (23%); mynediad llawn at y farchnad sengl a rhyddid symudiad (16%) yw’r trydydd dewis mwyaf poblogaidd; ac mae 15% yn credu na ddylai bod cytundeb o gwbl.

Pan ofynnwyd sut byddai ymadael â’r UE yn effeithio ar Gymru, mae’r rheini a bleidleisiodd i aros yn credu’n gryf y bydd Cymru yn dioddef mwy na gweddill y Deyrnas Unedig, tra bod y rhan fwyaf o’r rhai a bleidleisiodd i ymadael yn meddwl na fydd Cymru mewn sefyllfa waeth na gweddill y Deyrnas Unedig.

Mae’r mwyafrif o bobl yn credu y bydd Cymru yn dioddef mwy ac yn elwa llai na gweddill y Deyrnas Unedig (37%) o ganlyniad i Brexit, tra bod 34% o bobl yn credu y bydd Cymru yn elwa neu’n dioddef tua chymaint â gweddill y Deyrnas Unedig. Dim ond 8% o bobl sy’n credu y bydd Cymru ar ei hennill yn fwy na mannau eraill yn y Deyrnas Unedig o ganlyniad i ymadael â’r UE.

Hefyd mae’r ymchwil yn awgrymu nad yw’r rhan fwyaf o bleidleiswyr yng Nghymru, beth bynnag fu eu pleidlais yn y refferendwm, yn ymddiried yn Llywodraeth Cymru na Llywodraeth y Deyrnas Unedig wrth gynnal trafodaethau Brexit.

Nid yw mwyafrif helaeth o bobl yng Nghymru yn ymddiried yn Llywodraeth Cymru (57%) na Llywodraeth y DU (62%) i ymdrin â’r mater o ymadael â’r UE. Dim ond 30% o bobl sydd â ffydd yn Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU i drafod y mater.

Yn ogystal, mae tua 37% yn meddwl na fydd ymadael â’r UE yn gwneud unrhyw wahaniaeth i’w hamgylchiadau personol tra bod 32% yn credu y byddan nhw yn waeth. Dim ond 14% o bobl sy’n credu y byddan nhw yn well eu byd o ganlyniad i ymadael â’r undeb.

Dim syndod

Dywedodd yr Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae’r data o’r pôl opiniwn hwn yn awgrymu’n gryf nad oes unrhyw gytundeb ymhlith y cyhoedd yng Nghymru ynglŷn â’r hyn y maen nhw am ei weld o broses Brexit. Nid yw hyn o unrhyw syndod o gwbl o ystyried y diffyg manylion a gafwyd am sut caiff y broses ei chynnal a beth fydd yn cael ei hawlio.

“Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth hefyd yn dangos bod gwahaniaethau sylweddol o hyd rhwng y rhai a bleidleisiodd i aros a’r rhai oedd am ymadael. Mae’r ddwy ochr yn ymddangos mor bell oddi wrth ei gilydd ag erioed – dyma rywbeth fydd yn gwneud y dasg o gael unrhyw gonsensws ynglŷn â beth ddylai ddigwydd gymaint yn anoddach”.