Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd meddygon teulu yn derbyn arian ychwanegol os byddan nhw’n dewis aros yng Nghymru i weithio.

Dan y cynllun, Hyfforddi, Gweithio, Byw, bydd y meddygon yn cael cyfanswm o £20,000 os byddan nhw’n cytuno i aros yn yr ardal lle gwnaethon nhw hyfforddi.

Bydd pob un sy’n dewis astudio yng Nghymru hefyd yn cael £2,000 ar ddiwedd eu cyfnod hyfforddi.

Mae’r rhaglen yn rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru i recriwtio meddygon teulu a hynny ar ôl i’r nifer yng Nghymru ddisgyn yn sylweddol.

Mae nifer o feddygfeydd ledled y wlad, gan gynnwys ym Mhrestatyn, Aberaeron a Threorci, wedi gorfod cau o ganlyniad i’r diffyg recriwtio.

Mae’r cynllun wedi’i gyflwyno i geisio annog myfyrwyr i hyfforddi yn yr ardaloedd hynny ac mae disgwyl i iddo fod ar waith erbyn mis Awst 2017.

Targedu pawb

Bydd y cynllun yn targedu myfyrwyr meddygaeth sydd heb ddewis arbenigedd eto a meddygon iau sy’n dod at ddiwedd eu cyfnod hyfforddi.

Bydd meddygon teulu sydd newydd gymhwyso hefyd yn cael budd o’r cynllun, ynghyd â meddygon teulu profiadol.

Mae’r Llywodraeth hefyd yn bwriadu cyhoeddi “ffynhonnell wybodaeth” newydd, a fydd yn cynnwys gwybodaeth am ymarfer cyffredinol yng Nghymru a chymorth dros y ffôn ac ar-lein.

“Pwysig gweithredu”

“Mae’n bwysig ein bod yn gweithredu, a hynny cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau bod ein gwasanaeth iechyd yn gynaliadwy yn y tymor hir,” meddai’r Prif Weinidog, Carwyn Jones.

“Mae’r ymgyrch hon heddiw yn dangos bod Cymru’n fwy na lle gwych i fyw – mae hynny’n amlwg o weld ein trefi a’n dinasoedd ffyniannus, ein traethau, a’n mynyddoedd – mae hefyd yn lle gwych i hyfforddi a gweithio.

“Dw i eisiau i feddygon ledled y Deyrnas Unedig a thu hwnt fod yn ymwybodol bod Cymru’n lle delfrydol i hyfforddi, gweithio a byw ynddo. Mae ymgyrch heddiw’n mynd ymhell wrth gyhoeddi’r neges honno.”

Mae Cytundeb Addysg newydd, y cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig, wedi cael ei gyhoeddi ar gyfer meddygon iau Cymru hefyd.

Dan y cytundeb, y bwriad yw y bydd amser yn cael ei roi ar gyfer addysg yn ystod wythnos waith meddygon dan hyfforddiant.

Mesur llwyddiant

Yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, mae’r ymgyrch yn mynd “ymhellach” na’r hyn sydd wedi cael ei wneud o’r blaen i recriwtio meddygon.

“Beth sy’n wahanol yw ei fod yn amlygu beth sydd gan y wlad ei hun i’w chynnig i bobl sy’n hyfforddi ac yn gweithio yma,” meddai.

“Gellir mesur llwyddiant mewn sawl ffordd, ond yn y pen draw ein gobaith yw gweld cynnydd yn nifer y ceisiadau am leoliadau hyfforddi ac o ganlyniad bod y lleoedd rydyn ni’n eu hariannu yn cael eu llenwi.”