Mae Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi ei bwriad i weithio tuag at sefydlu Senedd Ieuenctid.

Gwnaeth Elin Jones AC yr ymrwymiad tra’n ymateb i gwestiwn i Gomisiwn y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn heddiw.

Gwnaeth ei chyhoeddiad yn dilyn galwadau gan y Ceidwadwyr Cymreig a oedd yn dweud bod sefydlu Senedd Ieuenctid i Gymru’n “hanfodol” er mwyn cael mwy o bobol ifanc i gymryd diddordeb mewn gwleidyddiaeth a sicrhau bod mwy o bobol ifanc yn pleidleisio.

Cefndir

Yn ôl adroddiad gan Gymdeithas Hansard yn 2014, dim ond 16% o bobol 18-24 oed ddywedodd y bydden nhw’n pleidleisio mewn etholiad, o’i gymharu â 58% ddywedodd y bydden nhw’n pleidleisio pe bai ganddyn nhw farn gref am fater penodol.

Mae Cymru’n un o chwe gwlad sydd â datganoli ond sydd heb senedd ieuenctid.

Yn 2015, pleidleisiodd 65% o Gymry yn etholiadau San Steffan, ond dim ond 45% bleidleisiodd yn etholiadau’r Cynulliad.

Senedd Ieuenctid i gael ei sefydlu’n fuan

Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru:  “Mae’r Comisiwn eisoes wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran ymgysylltu â phobol ifanc, gan roi cyfleoedd i nifer fawr o bobol ifanc ddylanwadu ar waith Aelodau a phwyllgorau a chyfrannu at y gwaith hwnnw.

“Yn gynharach eleni gwnaethom gytuno, fel rhan o’n strategaeth newydd ar gyfer y Pumed Cynulliad, ein bod am ddatblygu’r llwyddiant hwn ymhellach.

“Yn sicr, rwyf am weld senedd ieuenctid yn cael ei sefydlu’n gynnar yn nhymor cyfredol y Cynulliad.

“Mae’n rhaid i ni gynnwys pobl ifanc yn y gwaith hwn. Mae’r penderfyniadau a wnawn yn effeithio ar eu dyfodol ac felly mae’n rhaid i ni wrando ar eu llais fel rhan annatod o’n trafodaethau.

“Byddwn yn trafod ein camau nesaf yng Nghyfarfod y Comisiwn ddechrau mis Tachwedd.”