Bydd y rhan fwya’ o awdurdodau lleol yn gweld y cynnydd cyntaf yn eu cyllid gan Lywodraeth Cymru ers tair blynedd y flwyddyn nesaf o dan gynlluniau a amlinellwyd gan yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, heddiw.

Bydd cyfanswm o £ 4.1bn yn cael ei rannu rhwng 22 o gynghorau lleol Cymru yn 2017-18 – cynnydd o £3.8m ar 2016-17.

Bydd cyllideb y rhan fwya’ o gynghorau yn codi neu’n aros yr un fath gyda Cyngor Gwynedd yn gweld y cynnydd mwyaf – 0.9% – yn ei gyllideb. Er hynny, bydd deg Cyngor yn gweld gostyngiad gyda chynghorau Blaenau Gwent, Merthyr Tudful, Powys, Torfaen a Wrecsam yn gweld gostyngiad o 0.5%.

Arian ychwanegol

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud fod y gyllideb yn cynnwys £25 miliwn i gefnogi darparu gwasanaethau cymdeithasol cryf a bod yr arian ychwanegol yn cydnabod y pwysau cynyddol sy’n wynebu gwasanaethau cymdeithasol.

Mae hefyd yn cymryd i ystyriaeth cytundeb Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru i roi £25 miliwn yn ychwanegol i lywodraeth leol drwy’r setliad i gefnogi darparu gwasanaethau hanfodol, yn ogystal â darparu £1 miliwn ar gyfer cludiant i’r ysgol a £3 miliwn ar gyfer cynllun peilot i gefnogi parcio am ddim yng nghanol trefi.

Mae £650 miliwn ychwanegol ar gyfer blaenoriaethau allweddol a fydd yn helpu awdurdodau lleol i baratoi eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn nesaf ac mae £244 miliwn ar gael i helpu bron 300,000 o deuluoedd gyda’u treth gyngor.

‘Penderfyniadau anodd’

Yn ol Mark Drakeford:  “Nod y setliad dros dro hwn yw rhoi sefydlogrwydd i awdurdodau lleol reoli’r penderfyniadau anodd sydd o’n blaenau.

“O ganlyniad, hwn yw’r cynnydd arian parod cyntaf yn setliad llywodraeth leol ers 2013-14. O dan y cyllid gwaelodol, ni fydd rhaid i unrhyw gyngor ymdopi ar lai na 99.5% o’r arian a ddarparwyd iddynt y llynedd.

“O ychwanegu’r swm hwn at y ffynonellau eraill o incwm sydd ar gael iddynt, bydd llawer o gynghorau yn gallu cynyddu eu gwariant y flwyddyn nesa’.

“Mae hwn yn setliad sefydlog mewn cyfnod heriol,” meddai Mark Drakeford, “ac fe fydd yn caniatáu i Lywodraeth Leol bennu cyllidebau cynaliadwy er gwaethaf cyfyngiadau ar gyllid cyhoeddus.”

Cyllideb sydd am ‘daro teuluoedd sy’n gweithio yn galed’

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar awdurdodau lleol, Janet Finch-Saunders AC, fod y gyllideb am daro teuluoedd sy’n gweithio yn galed waetha’.

“Er bod toriadau llym i gyllideb llywodraeth leol wedi ei atal, mae hwn yn parhau i fod yn setliad anodd i gynghorau Cymru,” meddai.

“Rydym ni’n croesawu’r cynllun peilot i ddarparu parcio canol y dref am ddim – cynllun rydym wedi bod yn dadlau drosto ers 2012 – ond mae llawer mwy y gellir ei wneud i adfer ein strydoedd mawr.

“Gyda chefnogaeth gan Blaid Cymru, bydd y setliad hwn yn gofyn am hai penderfyniadau heriol a fydd yn taro teuluoedd sy’n gweithio’n galed yn eu poced.

“Mae toriadau blaenorol wedi difetha cyllidebau llywodraeth leol ac fel y cyfryw mae hwn yn gyfnod anodd i awdurdodau lleol ledled Cymru.”