Robin Hunter-Clarke (Llun: YouTube)
Mae cynghorydd sir UKIP yn Swydd Lincoln wedi amddiffyn ei benderfyniad i sefyll mewn isetholiad cyngor sir yn ne Cymru – 255 milltir i ffwrdd o’i ward bresennol.

Mae’r Cynghorydd Robin Hunter-Clarke, sy’n cynrychioli ward Skegness, wedi cael ei enwebu gan ei blaid i sefyll yn ward Gibbonsdown yn isetholiad Cyngor Bro Morgannwg ar Dachwedd 3.

Robin Hunter-Clarke ydi Pennaeth Staff Neil Hamilton yn y Cynulliad yng Nghaerdydd, ac mae’n honni ei fod yn treulio hanner ei amser ym mhrifddinas Cymru, a’r hanner arall yn Swydd Lincoln.

“Mae cymaint o bobol sy’n teimlo wedi eu siomi gan Lafur,” meddai Robin Hunter-Clarke mewn datganiad i golwg360 heddiw yn amddiffyn ei benderfyniad i sefyll yng Nghymru. “Mae’n mynd i fod yn ychydig fisoedd cyffrous wrth i UKIP baratoi at frwydro yn etholiadau’r cyngor fis Mai nesa’.

“Bydd yr is-etholiad hwn yn brawf allweddol i ddangos maint y gefnogaeth sydd gan UKIP ym Mro Morgannwg.”

Mae’r is-etholiad ym Mro Morgannwg wedi ei alw oherwydd ymddiswyddiad y cyn-gynghorydd Llafur, Rob Curtis.

Y stori hyd yn hyn

Mae Robin Hunter-Clarke yn dweud mai ei fwriad yw “ymddeol” o fod yn gynghorydd sir Skegness erbyn yr etholiadau fis Mai nesa’ – beth bynnag fydd yn digwydd ym Mro Morgannwg ar Dachwedd 3 eleni.

Dywed hefyd ei fod wedi derbyn beirniadaeth debyg am sefyll yn Skegness oherwydd ei fod yn byw yn ne Cymru. Ond er mai yng Nghymru y mae ei “gartref” erbyn hyn, meddai wedyn, mae’n mynnu na chollodd o erioed yr un cyfarfod cyngor, ac na hawliodd o chwaith yr un geiniog mewn costau teithio rhwng Caerdydd a Swydd Lincoln.

“Cefais fy ethol i Gyngor Sir Swydd Lincoln tra’r oeddwn yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caer,” meddai Robin Hunter-Clarke.

“Cefais y un fath o ymosodiad ar fy nghymeriad bryd hynny gan y wasg yn dweud na allwn i wneud y gwaith. Ni wnaeth hynny fy rhwystro rhag bod yn gynghorydd lleol effeithiol, ac rwy’n hoffi meddwl fy mod yn parhau i fod felly.”

Mwynhau “diwylliant” Cymru

Er nad yw Robin Hunter-Clarke wedi diystyru sefyll eto yn Skegness yn y dyfodol, mae’n dweud ei fod yn “mwynhau pob agwedd ar fywyd a diwylliant Cymru” ar hyn o bryd.

“Un o’r beirniadaethau mwyaf wynebais wrth sefyll ar gyfer y Senedd (yn San Steffan) oedd nad oedd gen i ddigon o brofiad bywyd,” meddai. “Wel, rwy’ i nawr yn gwneud yr hyn y dywedodd llawer wrtha’ i am ei wneud ar y pryd ac rwy’n ffodus iawn o ddod o hyd i rôl gyffrous newydd yng Nghymru, ble rwy’n bwriadu aros am yr ychydig flynyddoedd nesa’, o leiaf.

“Nid wy’n diystyru sefyll eto am y senedd yn Boston & Skegness. Mae wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth, felly gadewch i ni weld sut fydd y tirwedd gwleidyddol yn edrych fel pan ddaw’r etholiad cyffredinol nesaf. Efallai y byddaf yn ymladd sedd yng Nghymru?

“Rwyf hefyd yn caru fy rôl newydd yng Nghymru, yn ceisio dysgu Cymraeg ac wedi cofleidio pob agwedd ar fywyd a diwylliant Cymru.”