Mark Drakeford Llun: Senedd.tv
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion ei Chyllideb ddrafft am y flwyddyn ariannol nesaf gan ddweud  y bydd yn “rhoi sefydlogrwydd ac uchelgais mewn cyfnod ansicr”.

Mae’r gwariant gwerth bron i £15 biliwn yn cynnwys hwb o £240m i’r Gwasanaeth Iechyd, £1.36bn i ddarparu cartrefi fforddiadwy a £46m i gefnogi sector busnes Cymru.

Ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn amau bod y Llywodraeth wedi addo i wario gormod heb wybod o le y daw’r arian ychwanegol.

Cyhoeddwyd y bore ’ma bod Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi dod i gytundeb ar y fargen, a bod y Gyllideb ddrafft yn adlewyrchu meysydd polisi ar y cyd lle mae’r ddwy ochr yn rhannu’r un syniadau.

Manylion y gyllideb

Wrth gyhoeddi’r manylion y prynhawn yma, dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford bod y Gyllideb yn rhoi sefydlogrwydd i wasanaethau cyhoeddus allweddol ac yn cychwyn ar y gwaith o gyflawni chwe blaenoriaeth allweddol Symud Cymru Ymlaen. Mae’n cynnwys:

  • £111m ar gyfer prentisiaethau a hyfforddiaethau er mwyn dechrau cyflawni’r ymrwymiad i greu 100,000 o brentisiaethau i rai o bob oed;
  • Toriad trethi o £100m i fusnesau bach;
  • £10m i gefnogi prosiectau peilot gofal plant fel rhan o’r ymrwymiad i ddarparu 30 awr yr wythnos o ofal plant yn rhad ac am ddim i blant tair a phedair oed y mae eu rhieni yn gweithio;
  • Hwb o £20m i godi safonau mewn ysgolion fel rhan o’n hymrwymiad i ddarparu £100m dros dymor y Cynulliad hwn;
  • £16m ar gyfer cronfa triniaethau newydd i roi mynediad cyflym at driniaethau newydd ac arloesol ar gyfer clefydau sy’n peryglu bywyd;
  • £4.5m er mwyn codi’r terfyn cyfalaf ar gyfer gofal preswyl i £50,000.

‘Cyfnod eithriadol o gwtogi gwariant’

 

Mae hefyd yn cynnwys pecyn o ymrwymiadau gwario ychwanegol a mesurau anghyllidol a gytunwyd arnynt â Phlaid Cymru.

Dywedodd Mark Drakeford: “Ry’n ni’n wynebu cyfnod y mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi’i alw’n gyfnod eithriadol o gwtogi gwariant cyhoeddus dros 11 mlynedd neu fwy.

“Mae’r Gyllideb hon wedi’i datblygu hefyd yng nghyd-destun canlyniad refferendwm yr UE a’r ansicrwydd ynghylch dyfodol ffrydiau ariannu hanfodol o Ewrop. Mae ein cynlluniau wedi’u llywio gan yr heriau hyn, na welwyd mo’u tebyg o’r blaen.”

‘Costau’n chwyddo’

Ond mae Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, yn synnu y gall addewidion gofal plant o fewn y Gyllideb gostio £120 miliwn yn fwy na’r hyn a amcangyfrifwyd yn wreiddiol.

“Mae’r ffordd mae’r costau wedi chwyddo yn y maniffesto yn ei gwneud hi’n amhosib dweud o le fydd y cyllid ychwanegol yn dod,” meddai.

“Mae’n rhaid iddyn nhw ddangos o le fydd yr arian yn dod, a dweud y gwir am y toriadau fydd yn cael eu gwneud.”