Leanne Wood Llun: Plaid Cymru
Doedd yna ddim golwg o arweinydd Plaid Cymru yn y cyfarfod wythnosol ar gyfer y wasg yn y Cynulliad Cenedlaethol heddiw – a hynny bum niwrnod wedi cyhoeddiad un o aelodau’r blaid ei fod yn gadael y grŵp ym Mae Caerdydd er mwyn gweithredu fel AC annibynnol.

Adam Price oedd yn cynnal y cyfarfod heddiw yn y Senedd, fel rhan o’r drefn bob-dydd-Mawrth lle mae gwahanol Aelodau Cynulliad yn dod wyneb yn wyneb â’r wasg i ateb cwestiynau a chyflwyno materion y dydd.

Ac yn y stafell a oedd yn bigog o densiwn ar adegau heddiw, fe ddywedodd aelod Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ei fod yn teimlo “tristwch mawr” tros benderfyniad Dafydd Elis-Thomas i ymddiswyddo.

Fe gyfaddefodd hefyd fod yna ddryswch ynglŷn â’r cwestiwn o bwy, bellach, ydi’r wrthblaid swyddogol yn y Bae, gan fod gan Blaid Cymru a’r Ceidwadwyr Cymreig bellach 11 aelod yr un. Ond fe fydd ef ei hun, meddai, yn parhau i gyfeirio ato’i hun fel Ysgrifennydd yr Wrthblaid.

A phan ddaeth y cwestiwn, pa un a oedd ymadawiad Dafydd Elis-Thomas o’r rhengoedd yn tanseilio arweinyddiaeth Leanne Wood, doedd gan Adam Price ddim ateb naill ffordd na’r llall… gan ychwanegu at y dryswch.

Ar wahân i un datganiad gan Blaid Cymru yn hwyr nos Wener ddiwetha’, yn galw am isetholiad yn etholaeth Dwyfor-Meirionnydd, ni ddaeth ymateb gan y blaid yn dilyn cyhoeddiad Dafydd Elis-Thomas.

Pwy sy’n talu am swyddfa a staff?

Fe fydd Plaid Cymru yn colli’r lwfans blynyddol o £20,000 i dalu costau rhedeg swyddfa Dafydd Elis-Thomas, gan nad ydi Aelod Cynulliad Dwyfor-Meirionnydd bellach ar eu llyfrau ac yn cael ei dalu fel cynrychiolydd Annibynnol.

Mae Dafydd Elis-Thomas wedi dweud ei bod hi “i fyny iddyn nhw” yr hyn sy’n digwydd nesa’. Mae o’n hapus i’r aelodau staff sy’n gweithio iddo ef, barhau i wneud hynny – ond mae yna staff hefyd y mae o’n ei rannu gydag Aelod Seneddol ei ethoaeth, Liz Saville Roberts.

Mae eu sefyllfa nhw a’u swyddi yn dal yn y fantol wedi datblygiadau’r wythnos hon.