Michael Sheen yn y gynhadledd Llun: Llywodraeth Cymru
Mae’r actor o Bort Talbot, Michael Sheen wedi bod yn siarad mewn cynhadledd gwrth-gaethwasiaeth yng Nghaerdydd heddiw gan alw am “adeiladu systemau i warchod plant yn hytrach nag adeiladu waliau uwch.”

Roedd llysgennad Plant UNICEF yn cyflwyno’r araith agoriadol yng ngwesty’r Celtic Manor ac yn trafod ei rôl yn hyrwyddo’r gwaith o amddiffyn plant sy’n ffoaduriaid a’r rheini sy’n cael eu masnachu.

Erbyn hyn, mae 28 miliwn o blant sy’n ffoaduriaid yn ffoi rhag sefyllfaoedd o wrthdaro er mwyn bod yn ddiogel a chael eu hamddiffyn.

Pwrpas y gynhadledd yw trafod amcanion Llywodraeth Cymru o wneud Cymru yn wlad sy’n gwrthwynebu caethwasiaeth ac yn cefnogi’r rhai sy’n dioddef ac fe bwysleisiodd Michael Sheen fod argyfwng y ffoaduriaid, yn un na welwyd ei debyg o’r blaen.

‘Hawl i gael eu gwarchod’

Trefnwyd y gynhadledd gan Stephen Chapman, Cydgysylltydd Atal Caethwasiaeth Llywodraeth Cymru, ac fe gafodd ei chynnal fel rhan o Wythnos Atal Caethwasiaeth.

Meddai Michael Sheen: “Mae Ewrop yn cau ei drysau. Mae degau o filoedd o blant yn sownd yn yr Eidal a Gwlad Groeg ac yn troi at smyglwyr i gyrraedd pen eu taith.

“Fe ddylai gwledydd fod yn gweithio ar systemau i warchod plant yn hytrach nag adeiladu waliau uwch. Nid yw’r plant hyn yn medru rheoli nac yn dymuno bod yn y sefyllfa hon,

“Maen nhw angen cael eu gwarchod. Maen nhw a hawl i gael eu gwarchod”.

Ychwanegodd Stephen Chapman: “Mae codi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern yn rhan hollbwysig i fynd i’r afael â’r broblem.

“Mae nifer yr achosion sydd bellach yn cael eu hadrodd amdanynt wedi mwy na dyblu eleni o’i gymharu a’r llynedd. Dw i ddim yn credu bod nifer yr achosion wedi cynyddu, ond yn hytrach bod mwy o bobol yn ymwybodol o gaethwasiaeth a bod mwy o ddioddefwyr yn dod i’r amlwg.”