Bethan Jenkins AC Plaid Cymru
Mae’r Aelod Cynulliad Bethan Jenkins wedi dweud na all hi “fyth faddau” i weinyddiaeth Llafur am “gilio’n ddistaw” pan gaewyd y pyllau glo a’r gwaith dur yn y Cymoedd a Phort Talbot.

Roedd hi’n annerch cynhadledd flynyddol yr SNP dros y penwythnos a’i phwnc dewisol oedd ei hardal enedigol, Cwm Rhondda, a’r dirywiad sydd wedi bod yn niwydiant y Cymoedd dros yr hanner canrif ddiwethaf.

Mewn araith angerddol, lle bu’n rhaid iddi oedi i dderbyn cymeradwyaeth ar sawl adeg, fe ddywedodd hefyd mai’r rheswm i bobol y Cymoedd bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd oedd am fod yr arian sy’n dod o Ewrop yn cael ei roi yn y dwylo anghywir.

Mae Plaid Cymru yn cael lle ar raglen cynhadledd yr SNP bob blwyddyn ac ar y llwyfan yng Nglasgow ddydd Sadwrn, fe ddywedodd Bethan Jenkins bod gan Blaid Cymru “barch mawr” tuag at yr SNP. Ond dywedodd na fydd hi fyth yn cyd-weld a rhesymeg y Blaid Lafur tros beidio â gwneud mwy i achub diwydiant y Cymoedd.

Mae golwg360 wedi gofyn i’r Blaid Lafur am ei hymateb i’r sylwadau.

Diwydiant

“Port Talbot yw’r gymuned ddiwydiannol olaf yng Nghymru i oroesi,” meddai Bethan Jenkins.

“Mae gan ein Cymoedd enwau sy’n cael eu hadnabod ledled y byd am y rôl fuon nhw’n chwarae yn y chwyldro diwydiannol. Blaenafon, Glyn Ebwy, Y Rhondda, Merthyr – lle gwnaeth baner goch sosialaeth hedfan gyntaf… Ond dyw’r pyllau a greodd y llefydd hyn ddim yno mwyach. Mae’r hanes yma o gau diwydiannau yn rhywbeth y mae fy nghartref i a’ch dinas chi yn ei rannu o hyd.”

Ychwanegodd: “…a phwy oedd yn gyfrifol am geisio atal y gyllell rhag cael ei gwthio trwy galon Port Talbot? Y bobol olaf fysech chi eisiau ar eich ochr, dyna pwy,” meddai gan son am y Blaid Lafur yn lleol.

“Ym meddwl y gweinidogion, roedd y cytundeb wedi’i harwyddo…ac mae hyn yn fy ngwneud i’n sâl. Wna’i fyth faddau i weinyddiaeth Llafur am gilio’n ddistaw ym Mhort Talbot.”

“Y gwir amdani yw bod angen llywodraeth greadigol sy’n edrych ymlaen ac sy’n medru ymateb yn bwrpasol i’r argyfwng dur neu unrhyw argyfwng. Mae’r SNP yn gwneud hynny yn yr Alban ac rydym yn eich parchu chi gymaint am wneud hynny. Mae hi’n ffordd hir, ond mae Plaid Cymru am wneud hynny yng Nghymru hefyd.”

Gellir gwylio’r araith lawn yma: