Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau eu bod wedi dod o hyd i gorff dyn 23 oed oedd ar goll o ardal Doc Penfro.

Nid yw’r corff wedi’i adnabod yn swyddogol eto, ond mae teulu Adam Turner wedi cael gwybod am y datblygiadau.

Daethpwyd o hyd i’r corff mewn ardal goediog yn Noc Penfro, sy’n cael ei adnabod yn lleol fel ‘Ferry Woods’.

Yn ôl yr heddlu, fe wnaeth criwiau gwylwyr y glannau a’r gwasanaeth ambiwlans gynorthwyo i adfer y corff.

Nid oes manylion pellach ar hyn o bryd, ac mae teulu’r gŵr wedi gofyn am breifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn.