Atomfa Trawsfynydd
Mae’r grŵp gwrth niwclear CADNO wedi cyhoeddi y bydd yn ailddechrau gweithredu “o ddifrif” yn y dyfodol agos.

Dywedodd y grŵp mewn datganiad eu bod wedi penderfynu ail gydio ynddi ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi’r llynedd y byddai cyllid o £ 250m dros y pum mlynedd nesaf ar gyfer ymchwil a datblygiad niwclear.

Yn ogystal, fe wnaeth Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin argymell dros yr haf y dylai hen atomfa niwclear Trawsfynydd gael ei ddefnyddio i ddatblygu gorsaf ynni niwclear bach (SMR).

Petai hynny’n digwydd, Trawsfynydd fyddai’r lle cyntaf yn y DU i ddefnyddio a datblygu’r dechnoleg.

Mae SMR yn adweithydd niwclear gydag allbwn trydan llai na 300 MW. Maent wedi cael eu cymharu â’r adweithyddion niwclear sydd wedi cael eu defnyddio i bweru llongau tanfor ers yr 1950au ac yn cael eu gweld gan lawer fel dyfodol ynni niwclear.

Ffurfiwyd CADNO ym Meirionnydd yn 1987 ac roedden nhw’n ymgyrchu tan ddegawd cyntaf y mileniwm newydd pan gafodd gorsaf bŵer niwclear Trawsfynydd ei dadgomisiynu.

‘Angen i bobl wybod am y cynlluniau’

Dywedodd Dylan Edwards o CADNO wrth Golwg360 eu bod nhw eisiau “dwyn hyn i sylw’r cyhoedd a thrafod gyda’r cyhoedd am y cynlluniau” oherwydd bod llawer o drigolion lleol yn meddwl bod cyfnod niwclear atomfa Trawsfynydd wedi bod i ben.

Yn y datganiad, mae CADNO yn rhestru’r rhesymau pam ei fod yn “llwyr yn erbyn” datblygiad niwclear pellach yn Nhrawsfynydd. Mae’r rhesymau yn cynnwys yr effaith ar y diwydiant ymwelwyr yn yr ardal, yr effaith posib ar amaethyddiaeth a’i bod hi’n amhosibl cael gwared a gwastraff niwclear mewn ffordd ddiogel.

Dywedodd Dylan Edwards: “Mae technoleg werdd wedi datblygu cymaint erbyn hyn a byddai’n well buddsoddi mewn pŵer cynaliadwy na phŵer niwclear. Roedd effaith trychineb Chernobyl ar amaethyddiaeth yn yr ardal yma’n ddifrifol ac mae angen i bobl wybod am y cynlluniau.”

Ychwanegodd CADNO  y byddan nhw’n rhyddhau rhagor o wybodaeth cyn bo hir ac y byddan nhw’n cydweithio yn agos gyda PAWB, grŵp gwrth niwclear Ynys Môn, ar unrhyw ymgyrch yn y dyfodol.