Mae NSPCC Cymru wedi datgelu heddiw y bu cynnydd o 60% yn nifer y plant sy’n cysylltu â’r llinell gymorth ChildLine am eu bod yn poeni ar ôl gweld pornograffi ar y we.

Fe wnaeth y llinell gymorth ddarparu 844 o sesiynau cwnsela i blant ar draws Cymru a gwledydd Prydain y llynedd, o gymharu â 529 y flwyddyn cynt.

 

Roedd mwy na hanner o’r galwadau hynny wedi’u gwneud gan blant rhwng 12 a 15 oed, ond roedd 130 ohonynt gan blant o dan 11 hefyd.

 

Dywedodd nifer o’r plant a gysylltodd â ChildLine eu bod yn teimlo “cywilydd” ac “euogrwydd”  ar ôl gweld pornograffi ar-lein.

‘Diogelu plant ar y we’

Mae ymchwil gan yr NSPCC yn dangos fod pobol ifanc yr un mor debygol o weld pornograffi ar-lein drwy ddamwain ag ydynt i chwilio amdano, a bod ei wylio’n gyson yn arwain atynt i gredu bod pornograffi yn rhywbeth realistig.

Mae NSPCC Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i greu cynllun gweithredu diogelwch ar-lein cynhwysfawr, mewn ymgais i roi Cymru ar flaen y gad wrth ddiogelu plant ar y we.

“Nid pornograffi yw’r ffordd gywir i blant ddysgu am ryw ac mae gormod yn gweld gweithredoedd eithafol neu dreisgar o ryw ar-lein cyn iddynt hyd yn oed gael gwers addysg rhyw yn yr ysgol,” meddai Des Mannion, Pennaeth NSPCC Cymru.

Mae cynlluniau yn cael eu trafod yn Senedd Prydain hefyd i gyflwyno gwiriadau oedran i wefannau pornograffig, ond mae’r NSPCC yn credu fod angen gwneud mwy.

“Dylai gwefannau pornograffi oedolion nad sy’n llwyddo i gydymffurfio â gwiriadau oedran gael eu hatal rhag cael eu gweithredu yn y Deyrnas Unedig,” ychwanegodd Des Mannion.