Roedd cyn-Brif Weithredwr Plaid Cymru rhwng dau feddwl a ddylai hi fod wedi anfon ffurflenni ymgeiswyr at yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas cyn etholiadau diwetha’r Cynulliad.

Daw sylwadau Rhuanedd Richards ar ei thudalen Facebook ddeuddydd ar ôl i’r Arglwydd Elis-Thomas adael y Blaid a chyhoeddi ei fod yn parhau yn y Cynulliad fel aelod annibynnol.

Yn ei neges ar ei thudalen, dywedodd Rhuanedd Richards ei bod hi wedi anfon ffurflenni at ymgeiswyr eraill ymhell cyn iddi eu hanfon ato yntau.

“Fe roddais ei ffurflen ar ddrws fy swyddfa am fis cyfan. Roedd tystysgrif pob ymgeisydd arall eisoes wedi ei hanfon trwy’r post ers wythnosau. Ond nid hon.”

Ychwanegodd fod “pob greddf” yn dweud wrthi na ddylai hi bostio’r ffurflenni er ei bod yn disgrifio Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionnydd fel “cawr fy mhlentyndod a chyfaill fy nhad”, a hynny “er lles y nifer sylweddol o’i ffrindiau oedd yn gwingo dan straen baich eu teyrngarwch iddo” ac “er mwyn sicrhau undod pwrpas” yn ystod y cyfnod nesaf yn y Cynulliad.

Dywedodd fod rhoi stamp ar yr amlen yn “boenus”, ond ei bod hi wedi anfon y ffurflenni yn y pen draw “er mwyn parchu ewyllys a dymuniadau aelodau teyrngar, gweithgar a diwyd y Blaid yn Nwyfor Meirionnydd” am mai dyna “hanfod democratiaeth”.

Wrth gyfeirio at etholwyr a allai deimlo fel pe baen nhw wedi cael eu bradychu gan ei benderfyniad, ychwanegodd: “Dyna’r bobl sy’n brifo mwyaf yn sgil digwyddiadau’r penwythnos. O’u hadnabod serch hynny, rwy’n gwybod y down nhw at ei gilydd ac mi fyddan nhw’n fwy penderfynol nag erioed.”

Gorffennodd ei neges drwy ddymuno’n dda i’r Arglwydd Elis-Thomas.

Mae’r neges wedi cael ei rhannu dair gwaith, ac mae 75 o bobol wedi ei hoffi – mae ganddi fwy na 1,300 o ffrindiau ar Facebook.