Mae Plaid Cymru wedi colli eu grym i ddylanwadu ar bleidleisiau yn y Cynulliad yn dilyn ymadawiad yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, yn ôl cyn-Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan.

Cyn ei ymadawiad, roedd gan Blaid Cymru ddigon o Aelodau Cynulliad i allu dylanwadu ar benderfyniadau.

Ond mae colli un aelod yn mynd i gael effaith sylweddol arnyn nhw, yn ôl Rhodri Morgan.

Dywedodd wrth raglen Sunday Politics Wales y BBC: “Mae un bleidlais yn gwneud gwahaniaeth anferth ym mathemateg y Cynulliad oherwydd mae gan Lafur 30 [o seddau] a’r hyn sydd gyda chi nawr ar ôl i Dafydd… adael grŵp Plaid Cymru yw fod 30 yn dod yn fwy cyfforddus o lawer nag yr oedd o’r blaen.

“Allwch chi ddim gwthio Cyllideb drwodd gyda 30. Rhaid bod gyda chi gefnogaeth o leia’ un person o blaid arall neu blaid gyfan, a dyna pham fod Llafur wedi sefydlu cyd-bwyllgor gyda Phlaid Cymru.”

Cyd-bwyllgor

Ond fe ychwanegodd nad oes angen y cyd-bwyllgor hwnnw bellach ar ôl i’r Arglwydd Elis-Thomas fynd yn annibynnol.

“Y cyfan sydd ei angen o dro i dro yw gofyn i Dafydd am ysgolion newydd ym Meirionnydd neu beth bynnag mae’n ei weld fel prif flaenoriaethau ei etholaeth.

“Dw i’n sicr y bydd y pwyllgor yn parhau ond dydyn nhw ddim mor ddibynnol arno nawr oherwydd bod Plaid wedi colli eu grym bargeinio. Dyna’r peth allweddol.

“Mae grym Plaid ar bwyllgor yn fwy gwan o lawer ar ôl i Dafydd Êl adael.”

Swydd yng nghabinet Llafur?

Ond ar fater rhoi swydd iddo yng nghabinet Llywodraeth Lafur, wfftiodd Rhodri Morgan yr awgrym, gan ddweud “nad oes ganddo mo’r uchelgais”.

“Mae e jyst yn grac gyda’r math o wrthbleidiaeth ddi-feddwl mae’n ei weld fel rhan o arweinyddiaeth Leanne Wood o fewn Plaid Cymru.”